O Le Ti’n Dod?

7 August 2015

Un o’r bobl sy’n mynychu’r Eisteddfod bob blwyddyn yw Mari James. Mae’n Mari’n dod o Sir Fôn ac mae wedi bod yma ar y Maes ers dydd Sadwrn diwethaf. Mae hi yma am yr wythnos gyfan ac mae’n edrych ymlaen at fwynhau yn yr Eisteddfod eleni.

Wrth gymharu Eisteddfod eleni ag Eisteddfod y llynedd yn Llanelli, dywedodd Mari ei bod hi’n hoffi safle’r Eisteddfod eleni yn fwy na safle llynedd. Mae hyn oherwydd bod popeth ar y Maes yn agosach at ei gilydd  ar un safle i gymharu â llynedd pan oedd popeth bach yn fwy ar wasgar. Dywedodd hi hefyd ei bod hi’n hoff o syniad newydd y Maes eleni o gadw drysau’r Pafiliwn ar agor tra bod y cystadlu’n digwydd. Yn ôl hi, mae cael y drysau ar agor yn eich gwahodd chi i fewn i’r Pafiliwn.

Article tags

Share this article

Comment on this article