Os gwelwch chi’n dda, gai grempog?

9 August 2014

Mae crepes wedi bod yn aelod teyrngar o bentref bwyd yr Eisteddfod ers blynyddoedd, a dwi’n cofio bod yma’n fachgen ifanc, yn sticeri o’m mhen i’n nhraed, yn pledio i Mam am arian i brynu crepe geirios. Dyddie da! Ond mae’n debyg fod y stondin crepes wedi aeddfedu ers hynny, fel fy chwaeth bersonol i, ac mae’r stondin eleni yn beiriant crepes sy’n cynhyrchu bob math o lenwadau.

Mae llwyth o ddewis ar gael, o’r melys i’r sawrus. Amser cinio o’dd hi, felly es i am un sawrus. Mae na ddewisiadau diddorol, rhai plaen i blesio pawb a rhai ychydig mwy dewr, gan gynnwys special y dydd.

Y prif beth o’ ni’n poeni am oedd na fyddai’r crepe yn ddigonol i’m llenwi. Gyda lwc, ro’ ni’n anghywir.

Y Morgannwg aeth a’m chwaeth, cyfuniad cynnes o ddwy selsigen Morgannwg, caws, winwns, sbigoglys a phupur wedi’i falu. Eisteddais i ar y gwair i wylio ryw gôr gan fwyta ‘mwyd, a o ni na am dipyn, wedi llenwi a’m boddhau erbyn y diwedd. Cyfunodd bob gynhwysyn yn arbennig, yn enwedig y caws â’r selsig Morgannwg, ond phob peth yn ategu i’r crepe mewn ryw ffordd.

Pe tawn ni ddim mor llawn baswn i’n sicr wedi mynd nôl i gael crepe melys, gan fod y cynnwys mor gyffrous. Ro’dd y grempog ‘tarten banoffi’ yn hynod o apelgar: banana, bisged, taffi a sinamon. Mae’n amlwg fod y stondin wedi gwneud ymdrech i fod yn fwy gwreiddiol, ac mae’r canlyniad yn weddol gyffrous o feddwl.

Er i mi ond flasu un o’r dewisiadau, cefais i’m mhlesio’n eithafol. Mae ‘na rhywbeth i bawb, a’r bwyd yn llenwi am bris weddol rhesymol (£6 am ‘Y Morgannwg; crempogau eraill rhwng £4 a £6).  Gyda’r tim yn gweithio’n galed i gael y crepes i’n dwylo mor fuan a mae’n barod, a hynny o fewn system weddol nodedig o blatiau poeth, mae’r stondin crepes yn gret am ginio ar y maes.

 

Share this article

Comment on this article