A yw’r Orsedd yn rhywbeth sy’n apelio i’r ifanc?

6 August 2014

Bore Llun, roedd Heledd Gwyn Lewis, 22 oed o Gaernarfon yn wreiddiol, ymysg nifer a oedd yn cael eu hurddo i’r Orsedd. Oherwydd y glaw nid oedd yn bosibl i gynnal y seremoni ger y maen llog, ond ni effeithiodd hynny ar y seremoni. Cafodd y seremoni ei chynnal yn hytrach yn y Babell Len gyda’r un sedd yn wag yno. Wedi’r seremoni, cefais gyfle i holi Heledd Lewis a oedd newydd gael ei hurddo i’r Wisg Werdd ynghylch pwysigrwydd yr orsedd a pham fod cael ei hurddo yn apelio ati a’i chyfeillion.

1. Pam fod cael eich hurddo i’r Orsedd wedi apelio atoch?

Rydw i wedi bod â diddordeb yn yr Orsedd a’i holl seremoniau ers oed ifanc iawn – mae’n rhan mor annatod o’r Eisteddfod, ac rwyf wedi mynychu nifer o seremoniau dros y blynyddoedd oherwydd fod fy rhieni’n aelodau. Mae’n rhan o’n diwylliant cenedlaethol, ac roeddwn yn awyddus iawn i gael bod yn rhan o’r parhad hwnnw.

2. A ydych yn gweld fod angen moderneiddio yr Orsedd mewn unrhyw ffordd?

Mae’r Orsedd yn bodoli bellach ers dros 200 o flynyddoedd, felly yn amlwg mae rhai elfennau braidd yn ‘hen ffasiwn’ efallai, ond rwy’n mwynhau hynny – mae’n rhaid i ni barchu’r traddodiad sydd wedi goroesi cyhyd. Petai mwy o bobl ifanc yn dangos diddordeb ac yn ymaelodi, byddai’n moderneidddio’n naturiol heb orfod creu rhyw newidiadau di-angen.

3. Beth fydd hanes yr Orsedd mewn hanner can mlynedd yn eich tyb chi?

Rwy’n mawr obeithio y bydd yn parhau. Mae’r bwrlwm a’r olygfa liwgar ar ddiwrnod y seremoniau’n hyfryd a byddai’r Eisteddfod yn gwbl wahanol hebddynt. Pan gefais fy urddo ddoe, un peth a gododd fy nghalon oedd y nifer o bobl ifanc a oedd yn ymuno â’r Orsedd. Felly, os yw’r patrwm hwnnw’n parhau a rhagor o bobl ifanc yn dangos diddordeb a chymryd rhan, yna gobeithio y bydd yr Orsedd yn dal i ffynnu!

Share this article

Comment on this article