Abbie Bolitho

30 July 2016

Hylo! Abbie Bolitho ydw i (Bol-eye-thoh). Rwy’n 21 oed ac yn dod o Dreharris ym Merthyr Tydfil. Rwy newydd raddio o Brifysgol Caerdydd ar ol astudio Cymraeg gyda modiwlau newyddiaduriaeth. Nawr fy mod i wedi gorffen fy astudiaethau, hoffwn i ddatblygu fy sgiliau er mwyn cyrraedd fy nod o fod yn newyddiadurwraig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rwy wir yn mwynhau canu ac rwy’n rhedeg cor cumunedol adre felly baswn i wrth fy modd i sgwennu straeon ar ddigwyddiadau cerddoriaeth a gigs yn ystod yr wythnos.

Dyma’r tro cyntaf imi ddod i’r Eisteddfod achos fy mod i’n dod o deulu di-Gymraeg ond rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfleoedd i wella fy nghymraeg a chwrdd a phobl newydd!

Share this article

Comment on this article