Alex i’w Anrhydeddu

7 August 2015

Mae Alex Jones newydd gael ei anrhydeddu yng Ngorsedd y Beirdd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â gweld Alex ar eu sgriniau teledu yn cyflwyno’r rhaglen bynciol The One Show ar BBC One ond ar y Maes ym Meifod yw hi ar hyn o bryd.

Mae gan yr Eisteddfod le pwysig iawn yng nghalon Alex gan fod wedi treulio sawl blwyddyn yn cystadlu yn Eisteddfodau’r Urdd fel aelod o Adran Penrhyd. Mae’n amlwg felly fod cael ei hanrhydeddu yn golygu llawer iddi.

Er ei bod bellach yn byw yn Llundain, mae dal ganddi gysylltiad cryf gyda’i Chymreictod ac mae cael bod yn rhan o’r Eisteddfod eleni wedi galluogi iddi ymdrochi unwaith eto yn ei gwreiddiau Cymraeg.

Daeth Alex draw i stondin Prifysgol Caerdydd i sgwrsio gyda ni. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:-

 

 

Article tags

Share this article