Bysiau Gwennol i Maes B

6 August 2014

Efallai nad oeddech yn ymwybodol, ond mae Maes B yn rhan bwysig, os nad y rhan bwysicaf o’r Eisteddfod Genedlaethol i nifer o bobl ifanc! Mae Maes B yn cychwyn heno, a rwy’n siwr yn ystod y dydd bydd pobl ifanc Cymru yn heidio yno i osod eu pebyll a chychwyn ar eu hwyl! Ond i’r sawl fydd digon ‘diwylliedig’ i fentro i’r Pafiliwn i wrando ar y cystadlu cyn mynd i Maes B, dyma amserlen y bysiau gwennol:

  • Bydd y bysiau gwennol yn teithio yn ôl ac ymlaen i Maes B trwy’r dydd o fynedfa y Maes bob 30 munud hyd 12:00 y.b.
  • Wedi hynny, bydd y bysiau gwennol yn teithio yn ôl ac ymlaen i Maes B o fynedfa y Maes Carafanau bob 30 munud hyd 3:00 y.b.

Felly, a ydych wedi deall? Mae’r bws olaf yn gadael Maes B am y Maes Carafanau am 3:00 y.b. – os methwch y bws hwnnw – bydd yn daith cerdded o tua 4 milltir yn ôl i’r Maes Carafanau.

*Pwysleisiaf y dylech hefyd holi yn Maes B am gadarnhad o’r amseroedd hyn rhag ofn y bydd unrhyw newidiadau wedi bod yn ystod y dydd* 

Share this article

Comment on this article