Cipolwg ar y Dafodiaith Leol

6 August 2015

Yn ôl Iwan Rees, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, mae llawer o nodweddion unigryw yn perthyn i dafodiaith Meifod. Y nodwedd fwyaf amlwg yw mewn sawl gair mae pobl Maldwyn yn ynganu ‘e’ yn lle ‘a’ er enghraifft, yn lle dweud ‘glaw’ bydden nhw’n dweud ‘glew’. Yn ogystal â’r ynganiad gwahanol, mae nifer o eiriau unigryw yn perthyn i Sir Drefaldwyn. Dyma restr o rai o’r geiriau hyn:-

lodes – merch

cog – bachgen

wtra – ffordd fach yn arwain at fferm

shetin – gwyrch

cyt – cwt

stingoedd stingie – gwyrchoedd

ffyle – ceffylau

20150805_130957

Roedd hyn yn rhan o drafodaeth ar dafodiaith Meifod ac fel rhan o’r drafodaeth, trafododd Dafydd Wyn Griffiths am ei brofiadau ef o ymchwilio i’r dafodiaith. Mae Dafydd wedi astudio’r iaith lafar o siroedd Meifod yn fanwl ac mae wedi treulio llawer o’i amser yn astudio tafodiaith Sir Drefaldwyn ac yn bennaf ardal Brynhyfryd yn fanwl.

Yn Llanfair Caereinion gwnaeth ei waith ymchwil a dreuliodd ei gyfnod yno’n siarad â siaradwyr pur o’r ardal – hynny yw, y rhai sydd heb symud o’r ardal erioed. Wedi siarad â nhw cofnododd beth roeddynt wedi ei ddweud ond pwysleisiodd bwysigrwydd peidio ag ymyrryd gormod yn sgyrsiau’r bobl ac yn lle eistedd yn ôl a gwrando. Byddai ymyrryd gormod yn y sgyrsiau wedi effeithio ar y canlyniadau gan na fyddai pobl yn siarad yn naturiol.

Fel rhan o’r ‘Steddfod mae Iwan wedi cael y cyfle i fynd ati i recordio rhai o drigolion Maldwyn yn yr ystafell gyfweld sydd ar stondin Prifysgol Caerdydd gan fod angen gwneud mwy o waith ymchwil gyda’r genhedlaeth iau o siaradwyr. Felly os ydych am ddod draw i gyfrannu, peidiwch ag oedi!

Yn dilyn y drafodaeth, ces i sgwrs gyda Mererid Wigley i ddysgu mwy am yr iaith leol…

Felly beth i chi’n dweud ?

Article tags

Share this article

Comment on this article