Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr

5 July 2014

Mae Arweinydd Cyngor Sir Gâr wedi cyfarfod a llongyfarch crëwr y Goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Yr artist Angharad Pearce Jones, sy’n byw yn Garnant, wnaeth gynllunio a chreu y Goron a fydd yn cael ei chyflwyno am ddilyniant o 10 o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 o linellau, dan y teitl ‘Tyfu’.

Rhoddir y Goron a’r wobr ariannol eleni gan Gyngor Sir Gâr.

Dywedodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Kevin Madge “Rwy’n hynod o falch bod y Cyngor yn rhoi Coron wych gan artist lleol wrth i ni groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Sir Gaerfyrddin.

Hoffwn longyfarch Angharad ar greu darn o waith mor brydferth.”

Dywedodd Cynghorydd Keith Davies, Aelod y Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb am yr Eisteddfod Genedlaethol “Mae hi’n anrhydedd i ni fel Cyngor i gyflwyno’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

“Rydym wedi cael y pleser o gydweithio gydag Angharad Pearce Jones drwy ystod y daith o gomisiynu, cynllunio a llunio’r Goron, ac rydym yn diolch iddi am ei brwdfrydedd a’i chreadigrwydd.”

Share this article

Comment on this article