Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr

5 July 2014

Heno (12 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr  i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn nhref Llanelli. Yn wahanol i’r arfer, cafodd y Gadair a’r Goron eu cyflwyno mewn un digwyddiad, fel rhan o nodi 50 diwrnod i fynd cyn cychwyn yr Eisteddfod eleni.

Rhoddir y Goron a’r wobr ariannol eleni gan Gyngor Sir Gâr, a chomisiynwyd yr artist lleol, Angharad Pearce Jones i ymgymryd â’r dasg o gynllunio a chreu y Goron. Eleni, cyflwynir y Goron am ddilyniant o 10 o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell, dan y teitl ‘Tyfu’.  Y beirniaid yw Dylan Iorwerth, Marged Haycock a Dafydd Pritchard.

Cafodd y cynllun ei ysbrydoli gan dreftadaeth diwydiannol ardal yr Eisteddfod, ynghyd â hanes coeden Myrddin, ac mae rhoddwyr y Goron a’r wobr ariannol, Cyngor Sir Gâr yn hynod falch ohoni, a dywed Cynghorydd Keith Davies, Aelod o’r Bwrdd, “Mae hi’n anrhydedd i ni fel Cyngor i gyflwyno’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Ers cyhoeddi dyfodiad yr Eisteddfod i’r sir, rydym, fel Cyngor, wedi bod yn edrych ymlaen at eiddgar i groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru i hafan Sir Gâr.

Wrth gyflwyno’r Goron, rydym yn dathlu diwylliant a threftadaeth ein sir, ac yn diolch i’r Eisteddfod am ddychwelyd unwaith eto.”

“Rydym wedi cael y pleser o gydweithio gydag Angharad Pearce Jones drwy ystod y daith o gomisiynu, cynllunio a llunio’r Goron, ac rydym yn diolch iddi am ei brwdfrydedd a’i chreadigrwydd.” Meddai’r artist, Angharad Pearce Jones, “Rwyf wedi creu pontydd, cerfluniau pum metr o uchder a channoedd o giatiau ond erioed wedi creu coron o’r blaen, felly mae’r cyfle hwn eleni’n fraint fawr i mi fel artist.  Dewisais weithio yn fy neunydd cyfarwydd, sef dur ac mae’r dur hwnnw wedi ei weithio yn boeth ar yr einion a’i orffen gyda wyneb o zinc euraidd.

Mae’r rhan addurnedig wedi ei folltio i fand o ddur gwrthstaen gyda’r cwbl yn talu teyrnged i dreftadaeth diwydiannol ardal yr Eisteddfod eleni “Mae’r cynllun ar ffurf coeden, sy’n tyfu o’r tu blaen tuag at y cefn.  Daeth yr ysbrydoliaeth o hanes coeden Myrddin, o ble mae tref a Sir Gaerfyrddin yn cael eu henwau. Er y deunydd diwydiannol roeddwn yn awyddus i’r Goron edrych yn gywrain, yn addurnedig ac yn werthfawr a gobeithiaf bydd bardd teilwng, i’w mwynhau am byth.”

Yn ogystal â’r Goron, bydd y Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith nos Iau.  Cyflwynir y Gadair gan Stuart Cole, er cof am ei fam, Mrs Gwennie Cole a’i dad, Mr David Cole, a rhoddir y wobr ariannol gan Huw a Jean Huw Jones, Rhydaman, er cof am eu rhieni, T Richard ac Eurllyn Jones.  ‘Lloches’ yw’r teitl eleni, gyda’r beirniaid, Llion Jones, Alan Llwyd ac Idris Reynolds, yn chwilio am awdl ar fwy nag un o’r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell. Robert Hopkins, crefftwr lleol, yw gwneuthurwr y Gadair eleni, ac fe’i ysbrydolwyd gan dirlun Sir Gâr wrth ei chreu.  Dywedodd, “Mae’r Gadair wedi’i gwneud allan o goedyn ywen o ardal Llandysul a gwlân o Lanfihangel yr Arth ger Pencader, ac mae hyn yn bwysig, gan mai bwriad y Gadair yw dangos nodweddion y sir, yr arfordir, y bryniau, y cymoedd o ran tirwedd, a chan gyfeirio at nodweddion eraill fel y rygbi a’r Scarlets a’r ‘corols’ ys dywed trigolion Sir Gâr, y melinau rolio oer yn y gwaith tun, a gwelir hyn ar waelod breichiau’r Gadair.

Ychwanegodd Stuart Cole, noddwr y Gadair, “Fel bachgen o dre Llanelli a Sir Gâr, mae’n bleser cael noddi’r Gadair er cof am fy rhieni eleni.  Mae’r Eisteddfod wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd ers blynyddoedd – roeddwn yn stiwardio yn 1962!  Ac ers hynny, rwyf wedi cefnogi ac ymwneud â’r Eisteddfod mewn nifer o ffyrdd. “Roedd gen i syniad eithaf clir o’r hyn yr oeddwn am ei weld, ac fe fues i’n gweithio ar y cynllun cychwynnol gydag Emmajane Mantle o Adran Dylunio Prifysgol De Cymru, ac yna’n gweithio gyda Robert ei hun.  Ond gwaith Robert yw’r Gadair hardd rydym yn ei chyflwyno heddiw, a mawr yw fy niolch iddo am y gwaith.  Rwy’n mawr obeithio y cawn enillydd iddi ym mis Awst.” Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Gethin Thomas, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl.

Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, a rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yn Sir Gâr ymhen rhai wythnosau. “Diolch i Angharad Pearce Jones am ei gwaith cywrain ar y Goron ac i Gyngor Sir Gâr am ei chyflwyno.  Yr un yw’r diolch i Robert Hopkins am ei waith ar y Gadair, ac i Stuart Cole am ei chyflwyno, ac i Huw a Jean Huw Jones am y wobr ariannol.  Diolch o waelod calon ar ran y Pwyllgor, yr Eisteddfod, a Sir Gâr i gyd.”

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 4 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 8 Awst am 16.30.  Dylai unrhyw un sy’n mynychu’r seremonïau sicrhau bod ganddynt docyn sedd gadw gan y bydd y Pafiliwn yn orlawn ar gyfer y ddwy seremoni  Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i wefan yr Eisteddfod, neu drwy ffonio’r Linell Docynnau ar 0845 4090 800.

Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod. Ewch ar-lein am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, a gynhelir ar y Meysydd Gwyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli o 1-9 Awst.

Share this article

Comment on this article