Cynghorion teithio

2 August 2014

Bydd trefnwyr yr Eisteddfod yn parhau i “adolygu’r sefyllfa” o safbwynt trefniadau parcio Eisteddfod Sir Gâr. Yn ymateb i bryderon ynglyn ag oedi ym maes parcio Delta Lakes y bore ‘ma, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod bod lle i addasu’r cynlluniau fel bo’r angen.

Serch hynny, rhybuddiodd y dylai rheiny sydd angen cyrraedd y maes erbyn amser penodol gyrraedd y meysydd parcio priodol bedwar deg pum munud o flaen llaw. 

Nid oes un maes parcio penodol ar waith yn yr Eisteddfod yn Llanelli eleni, ond yn hytrach mae bysiau gwennol yn cludo Eisteddfodwyr o dri maes parcio ar gyrion y maes.

Am fwy o gynghorion teithio, edrychwch ar wefan yr Eisteddfod. Ceir gwybodaeth ynghylch cyrraedd y maes ar wefan Cyngor Sir Gâr yn ogystal.

 

Share this article

Comment on this article