Diwrnod Albwm Cymraeg y Flwyddyn

7 August 2015

Llongyfarchiadau mawr i Gwenno am ei halbwm buddugol ‘Y Dydd Olaf’. Cyhoeddwyd enillydd y wobr ‘Albwm y Flwyddyn’ yn Caffi Maes B o flaen pabell orlawn heddiw.FullSizeRender-2

Dyma’r eildro i’r wobr yma gael ei chynnig gan fod y trefnwyr yn awyddus i roi sylw i gerddoriaeth Gymraeg a gyhoeddwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ôl Guto Brychan, un o drefnwyr y wobr, “Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran cynnyrch ac mae’r amrywiaeth ar y rhestr fer yn adlewyrchu hynny” wrth i ni gydnabod gallu cerddorol, amrywiol Cymry.

Mae’r deg albwm a oedd yn cystadlu am y teitl yn dystiolaeth bod sîn cerddoriaeth Cymru yn mynd o nerth i nerth. O fewn categori safonol mae’n rhwydd deall pam bod Gwenno ei hun wedi synnu gan ei buddugoliaeth wrth iddi ddiolch a llongyfarch “bawb sy’ ‘di llwyddo creu albwm eleni”.

Share this article

Comment on this article