Diwylliant Gwerin yn herio’r rhagdybiaethau

5 August 2015

Beth yn union yw diwylliant gwerin Cymreig ? Dyna fu o dan sylw yn y Ty Gwerin gyda Gai Toms, Dr Siwan Rosser a Linda Griffiths pnawn ddoe . A oes rhaid i gân werin cael ei hetifeddu? A yw diwylliant gwerin yn gaeth i un fath o sain acwstig? Neu a yw’n golygu yn syml caneuon y bobl?

Wnes i ddarganfod bod gwerin ymhobman. Diddorol oedd clywed dadl Gai Toms gellir ystyried golygfa hip-hop yn Efrog Newydd, gan ei fod yn unigryw i bobl mewn ardal benodol. Mewn byd Ôl-Fodernol mae’n hawdd anghofio’r pethau bychain. Ystyr gwerin yw pethau sydd yn berthnasol i chi a phobl eich ardal, yn enwedig cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth; y rhain sy’n bwysig i’r bobl.

Wrth eistedd a gwrando ar y drafodaeth ar ystyr gwerin, sbardunodd atgofion o ddynion yn siarad dros beint yn y Cymoedd. I fi pethau sy’n denu pobl at ei gilydd yw ystyr gwerin. Wrth ystyried hynny mae’n hawdd dweud mai’r Eisteddfod Genedlaethol yw’r llwyfan werin yng Nghymru.

IMG_1432

Mae’n debyg fod yr ystrydebau o’r gair ‘gwerin’ yn profi’n anodd eu llyncu i bobl ifanc heddiw. Rheswm dros hyn efallai yw oherwydd mae’n sbarduno atgofion o’r cosi anochel a fyddai’n digwydd pan fyddai merched yn gwisgo’r wisg Gymraeg ar Ddydd Gŵyl Dewi neu’n cael eu gorfodi i ddawnsio gyda bachgen (am y tro cyntaf yn wyth mlwydd oed) ar gyfer yr Eisteddfod Sir.

IMG_1436 (1)

Yn gyffredinol, mae’r ddelwedd mae’r Eisteddfod yn creu o’r byd werin yn dod o dan yr ystrydeb yma. Ond eleni mae’r buddsoddiant mewn yurt wedi llwyddo i greu awyrgylch mwy cymdeithasol gan herio’r rhagdybiaethau.

Yn ôl Dr. Siwan Rosser, mae’r siâp crwn yn werin yn ei hun, ac yn golygu fod pobl yn teimlo’n rhan o’r perfformiad. Wrth wrando ar Linda Griffiths a Sorela ddoe, dwi’n deall yn iawn beth mae Siwan yn ceisio ei ddweud. Roedd y babell yn orlawn a phawb wedi eu hudo gan ei chanu gwerinol. Yn ôl canwyr Gai Toms ystyr gwerin mewn un llinell gan ddweud fod gwerin ‘tu hwnt i ddisgrifiad’.

IMG_1416

Yn y bôn caneuon i’r bobl yw gwerin. Holodd y gantores werin lleol ,Linda Griffiths  a oes rhaid i gân gael ei throsglwyddo o genedl i genedl er mwyn ei hystyried yn gân werin? Yn hanesyddol, mae pethau sydd yn cael eu hystyried yn ‘werin’  wedi cael eu trosglwyddo ar lafar. Bellach mae’r rhan fwyaf o ganeuon yn cael eu recordio neu eu cofnodi. Pwysleisiodd Linda Griffiths ei bod hi’n bwysig troi’n ôl i’r hen ganeuon ond hefyd ychwanegu’r stoc newydd o ganeuon.

 

Os ydych chi eisiau profi blas o werin yn yr eisteddfod eleni, mae lot o weithgareddau a pherfformiadau ymlaen trwy’r wythnos yn y Tŷ Gwerin ar ledled y maes.

 

 

Article tags

Share this article

Comment on this article