“Does Dim Ffiniau i Ddefnydd yr Iaith Gymraeg”

3 August 2015

Heddiw bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ymweld â’r Maes a chefais y cyfle i gyfweld ag ef bore ‘ma ym mhabell Caffi Maes B. Fel rhan o’i ymweliad, bu ef yn lansio’r Siarter Iaith ac ymgyrch newydd Prifysgol Caerdydd, Cymraeg i Bawb, ac felly roedd gen i awydd dysgu mwy am yr ymgyrchoedd hyn.

Un o’r pynciau a drafodwyd yn gyntaf oedd y Siarter Iaith. Dechreuodd y Siarter Iaith fel rhaglen beilot yng Ngwynedd er mwyn cael mwy o blant i siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth gan fod cynlleied ohonynt yn siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol. Bu’r peilot yn llwyddiant ysgubol ac o ganlyniad i hynny,  maent wedi datblygu’r Siarter Iaith ar draws gogledd Cymru gyda’r bwriad o ledu hyn trwy Gymru gyfan yn y dyfodol.

Ymgyrch arall a oedd yn cael ei lansio heddiw oedd ymgyrch newydd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd sef Cymraeg i Bawb. Bydd Cymraeg i Bawb yn rhoi cyfle euraidd i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg rhan amser ar y cyd gyda pha bynnag radd maent yn eu gwneud, a’r cyfan am ddim. Bydd y Gymraeg yn cael ei hychwanegu at amryw o ieithoedd eraill sydd yn barod yn cael eu cynnig i fyfyrwyr y brifysgol megis Ffrangeg, Sbaeneg a Siapanaeg.

Roedd y profiad o gyfweld ag un o bobl fwyaf dylanwadol Cymru yn fraint o’r mwyaf. Er y nerfusrwydd ar y dechrau, erbyn diwedd y cyfweliad, llwyddais i ymlacio a mwynhau cyfweld â Carwyn Jones. Buom yn trafod sawl agwedd wahanol o’i waith, ac roedd y rhain yn amrywio o’r hyn roedd yn gwneud ar y Maes heddiw i’w ymweliad diweddar i Batagonia’r wythnos ddiwethaf ar gyfer dathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r Wladfa. Mwynheais drafod ei brofiad ym Mhatagonia ac roedd yn ddiddorol clywed ef yn siarad am y gwahaniaethau rhwng Cymraeg y Wladfa a Chymraeg Cymru.

Gwibiodd yr amser heibio a mwynheais bob eiliad o’r profiad. Cliciwch ar y llun isod i gael gwrando ar y cyfweliad i gyd.

 

 

 

Llun Cyfweliad Carwyn

Article tags

Share this article

Comment on this article