Dylanwad diwylliant Tsiena ar enillydd y fedal ddrama

7 August 2015

Ddoe, derbyniodd Wyn Mason y fedal ddrama. Roedd 15 wedi cystadlu, ond Mason gipiodd hi gyda chymysgedd o elfennau o Gymru a Tsiena. Mae e’n dod o Llanfarian, ger Aberystwyth, ond mae’n byw yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Cafodd ysbrydoliaeth o ganeuon y bardd anfarwol, Gareth Bonello. “Oedd e wedi cymryd barddoniaeth Li Bai, a troi nhw mewn i caneuon. Tro fi nawr oedd e i gymryd caneuon Gareth a troi nhw mewn i theatr.” Treuliodd Bonello gyfnod yn Tsiena yn creu cerddoriaeth, ac mae dylanwad Li Bai, bardd yr 8fed ganrif ar ei waith.

Er i Mason ysgrifennu dros BBC, S4C a Sianel 4, dyw e ddim yn ysgrifennydd theatr profiadol. “Hwn yw’r ddrama lwyfan gynta ifi sgwennu. Dw i’n dod o gefndir ffilm a teledu. Cwpl o flynyddoedd yn ol wnes i’r cwrs cyfarwyddo theatr, a chael fy ysbrydoli.” Serch hyn, mae Mason yn mwynhau gweithio trwy’r gyfrwng. “Dw i’n hoffi cael ymateb cynulleidfa fyw, gyda ffilm a theledu mae pellter, rhywsut.”

Roedd y seremoni yn anhrydedd fawr. “Ti yn teimlo’n nerfus. Ond o’n i’n falch gan fod dim angen ifi roi araith o’r llwyfan.”

‘Dyn ni’n gallu disgwyl ymlaen at fwy o waith creadigol ganddo. “Mae angen i theatr aros yn ffres. Beth oedd yn ffres yn y ganrif olaf, dyw hynny ddim yn ffres yn y ganrif yma. Mae’n bwysig bod theatr yn gwthio’r ffiniau.”

Article tags

Share this article

Comment on this article