Elen Davies

30 July 2016

Helo!
Elen Davies ydw i, neu Elz/Elsyn fel mae fy ffrindiau yn fy ngalw.
Rwy’n fyfyrwraig yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth. Y myfyriwr cyntaf i astudio’r radd gydanrhydedd newydd- Cwl neu be?!
Rwy’n barod i ddechrau fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ac yn ecseited bost i ddechrau’r modiwl ‘Yr Ystafell Newyddion’, lle bydd cyfle i gael blas ar fywyd newyddiadurol go iawn wrth ymweld ag ystafelloedd newyddion a chwrdd a phobl profiadol yn y maes!
Rwyn lysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd ac yn mwynhau byw bob dydd yn y Gymraeg!
Meddyliwch am Miranda Hart, a fi yw’r fersiwn Cymraeg- dwl, lletchwith ac yn ffrind i bawb!

Share this article

Comment on this article