Elin Fflur: “dw i’n cwyno am y bobl sy’n cwyno!”

6 August 2015

Mae’r gantores o Ynys Môn, Elin Fflur, wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnos yn perfformio, a ffeindio amser i fwynhau hefyd. Mae hi wedi perfformio ddydd Sadwrn, ddydd Mawrth, ddoe a heddiw, weithiau sawl gwaith yn yr un diwrnod.

“Wna i ddeud ‘thach di’n hollol onest ‘de,” dwedodd hi, “dw i ddim yn lico pobl yn cwyno am bethau fel hyn. Mae pobl yn ffeindio rhywbeth i gwyno am drwy’r amser – Felly dw i’n cwyno am y bobl sy’n cwyno!

“Beth ddylen ni neud ydy dathlu’r ffaith bod gynnon ni’r digwyddiad anhygoel yma, lle mae degau a degau o filoedd o bobl yn dod bob blwyddyn i siarad Cymraeg. Dathlwch beth sy gynnon ni, a joiwch! Dyna beth dw i’n ei neud.”

Er bod hi wedi treulio llawer o’i hamser yn perfformio, mae hi dal yn mwynhau bod yn ymwelydd weithiau. “Dw i’n lico crwydro mewn siopau hyfryd fel hyn,” dwedodd hi tu allan i Siop Sain. Mae hi’n hoffi bod ar ochr arall y perfformiad hefyd, ” dw i’n lico gweld y bandiau’n perfformio… Mae’n hyfryd.”

Doedd hi ddim yn gwybod am y syniad o adael i bobl gerdded mewn a mas i’r pafiliwn. “Mae’n gwestiwn anodd. Dw i’n meddwl bod e’n bwysig cadw ffurfioldeb y digwyddiad. Dw i’n meddwl bod y bobl sy’n cystadlu yn gweithio mor galed i berfformio, ac os bydd rhywbeth yn tarfu, mae’n gallu rhoi chi off.”

Yn anffodus, dyw Elin ddim yn perfformio eto yn yr wyl, ond byddwch chi yn gallu clywed mwy ohoni hi ar raglen S4C, Heno… Wel, heno. Gallwch chi hefyd brynu ei halbymau hen a newydd yn stondin Siop Sain, neu arlein yma:

http://sioplawrlwythosain.com/

Article tags

Share this article

Comment on this article