ETHOL GERAINT LLOYD OWEN YN ARCHDDERWYDD

29 July 2015

Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi mai Geraint Lloyd Owen, Geraint Llifon yng Ngorsedd, fydd yn gweithredu fel Archdderwydd am y cyfnod o 2016-19.

Gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau, ni fydd angen cynnal etholiad, a bydd cyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd yn cadarnhau’r enwebiad yn eu cyfarfod yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Yn wreiddiol o Sarnau, Penllyn, dechreuodd Geraint Lloyd Owen ei yrfa fel athro ym Machynlleth ac yna bu’n dysgu mewn amryw o ysgolion cyn ymddeol yn gynnar i redeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon.  Bellach, mae’n Bennaeth Cyhoeddi yng Ngwasg y Bwthyn.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Wrecsam a’r Fro, 2011 am ddilyniant o gerddi, Gwythiennau, a dywedodd y beirniad, Gwyn Thomas, wrth draddodi’r feirniadaeth bod y cerddi hyn “… yn rymus iawn, yn fedrus iawn, yn eglur ac yn dra diddorol.”

Wrth dderbyn yr anrhydedd o’i ethol yn Archdderwydd, meddai Geraint Lloyd Owen, “Mae hyn yn destun balchder i mi a’r teulu, a daw yn ystod y cyfnod ar ôl i ni golli Elliw yn ferch 40 oed.  Gwn y byddai hi’n ymfalchïo yn y cyhoeddiad yma heddiw.  Bu hi’n ran mawr o’r penderfyniad i gynnig fy enw, a gwn y byddai’n dweud wrthyf am fynd amdani ac am fwynhau’r profiad pe yn llwyddiannus.  Bu presenoldeb Elliw ar ôl ei cholli yn ganolog i’r penderfyniad, a bydd am byth yn parhau’n rhan fawr o bopeth yr ydym yn ei wneud.”

Bydd Geraint yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni’r Cadeirio, brynhawn Gwener 7 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.  Dyma fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Christine, a bydd yr Archdderwydd newydd yn arwain ei seremoni gyntaf adeg Cyhoeddi Eisteddfod 2017 a gynhelir ym Môn yn ystod haf 2016.

Share this article

Comment on this article