‘Siop Ffenest’ Theatr Cymru.

2 August 2015

Wyt ti eisiau arbrofi rhywbeth gwahanol yn yr Eisteddfod eleni? Wyt ti’n mwynhau gwylio drama, neu hyd yn oed perfformio? Os ydych, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â Phentre’ Drama Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Pentref Drama Theatr Genedlaethol Cymru wedi profi’n boblogaidd eto eleni. Mae dau lleoliad perfformio ar y maes, a’r ddrama Nansi  yn cael ei pherfformio yn yr ardal lleol .  Mae Caffi’r Theatrau yn le i ymlacio a chael y cyfle i gyfarfod a chwmnïau theatr broffesiynol o ledled Cymru megis Cwmni Theatr Bara Caws.

IMG_0282

Yn ôl Arwel Gruffydd ,Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, disgrifiodd y Pentre’ Drama fel ‘siop ffenest am bopeth sydd yn digwydd yn y byd drama yng Nghymru ar hyn o’r bryd’. Eleni mae amryw o weithgareddau a pherfformiadau dros wythnos yr eisteddfod. Mae dwy theatr ar y Maes sef  Y Cwt (Coch) a Theatr y Maes gyda ddigon o waith newydd i’r traddodiadol a’r arbrofol i ddiddanu. Erbyn hyn mae tocynnau ar gyfer drama newydd  Angharad Price ‘Nansi’ yn neuadd pentre Llanfair  wedi  gwerthu mas ac felly wedi profi’n boblogaidd iawn gyda’r bobl lleol.

‘La Prima Cena’

Mae ‘La Primera Cena’ a enillodd y fedel ddrama flwyddyn ddiwethaf yn agor Nos Lun am chwech o’r gloch yn y Cwt ddrama. Mae’r ddrama heriol gan Dewi Wyn Williams am fab yn ail gwrdd â’i dad ar ôl trideg mlynedd.

‘Sibrwd’

Am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod mae Theatr Genedlaethol yn defnyddio’r ap ‘Sibrwd’ . Mae’r ap yn galluogi pobl i fwynhau’r ddrama hyd yn oed os nad ydynt yn deall  iaith y perfformiad. Mae’r ap ar gael am rad ac am ddim yn yr ‘app store’ ac yn ‘google play’.

Mae La Primera Cena yn cael ei pherfformio o ddydd Llun i ddydd Gwener . Gellid prynu tocynnau ar gyfer hi yn y Cwt Drama am £5 y tocyn.

 

 

Article tags

Share this article

Comment on this article