Fflur Dafydd Cyhoeddiadau Cyffrous!

31 July 2016

Mae’r awdur Fflur Dafydd yma ar y maes ac yn cyhoeddi llawer o bethau cyffrous!

I ddechrau, mae gyda hi ffilm newydd, ‘Y Llyfrgell’ sy’n seiliedig ar ei llyfr o’r un enw.  Cafodd y ffilm ei henwebu yng nghategori y ffilm orau Brydeinig yng ngŵyl ffilm Caeredin ac ennillodd Catrin Stewart, un o sêr y ffilm, y wobr am y berfformiad gorau mewn ffilm Brydeinig.

Mae’r ffilm yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru nos yfory yn sinema’r Fenni ar stryd Baker. Mae’r sioe wedi gwerthu mas, ond bydd llawer o gyfleoedd i wylio’r ffilm dros Gymru i gyd yr wythnos olynol mewn llefydd fel Chapter yng Nghaerdydd. Bydd nifer o actorion o’r ffilm yno nos yfory.

Mae Fflur yn cyweithio gyda’r criw sy’n rhedeg Sinemaes, sef sinema ar faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf eleni, i ddangos ecscliwsif o gyfres newydd Parch.

13902073_10153782682772688_1956646923_o

Wedi llwyddiant mawr y gyfres cyntaf o Parch ar S4C mae cyfle i ffans y rhaglen i gael cipolwg o’r ail gyfres tra ar y Maes.

Dywedodd Fflur, sydd wedi ysgrifennu’r sgript, bod yr ail gyfres yn fwy o ‘thriller’ na’r un cyntaf. Bydd yn cael ei ddangos yn Sinemaes am 11.00 bore dydd Mercher.

Dywedodd Fflur ei bod hi eisiau defnyddio’r Eisteddfod i glywed ‘ymateb y darllenwyr’ i’w waith felly ewch i siarad ‘da hi!

Share this article

Comment on this article