5 August 2014

‘Freebie’ gorau’r Maes

Gan Mali a Manon, 11 oed

Mae gan bob stondin yn yr Eisteddfod freebies. Fe grwydrom ni o amgylch y maes ar daith i ffeindio’r freebie gorau . Ond dim ond un stondin oedd yn gallu ennill. Roeddem ni yn chwilo am wreiddioldeb, rhywbeth sydd o ddiddordeb i blant a rhywbeth hwylus. Yn y stondinau roeddem yn chwilio am angerdd am bwrpas eu stondin, bywiogrwydd a bod y staff yn garedig ac yn eich croesawu’n gynnes.  Felly, pa stondin a ddaeth i’r brig? Wel y stondin oedd “Y Cinio Mawr.”

Staff  stondin “Y Cinio Mawr”  yw Gwion Thorpe ac Eleri Davies, maent yn cydweithio efo The Eden Project – yn ôl Gwion: “i sichrhau eu bod yn helpu cymunedau ddod yn gryfach.”

Ychwanegodd Gwion: “fod y project yn awyddus i ddangos i bobl sut rydym yn gallu cyflawni pethau wrth weithio efo ein gilydd.”

Fe gyhoeddom ni wrth Gwion a Eleri ei bod wedi ennill, yr ymateb cafon ni oedd “Rwy’n chuffed rwyf eisiau diolch pawb a helpodd ni trwy broses llafurus o ddatblygu “Y Cinio Mawr” sydd wedi arwain y project at le mae e nawr”.

Beth yw y freebie? Y freebie yw peintio gwyneb. Fel chi’n gwybod mae plant yn mwynhau cael eu gwyneb wedi eu peintio, dyna rheswm arall dros ddewis hwn fel  y freebie gorau.

Fe hoffwn nodi bod stondin  Caru Dwr yn ail agos ac yn drydydd roedd Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y rheswm  pam ddewisiom y rhain oherwydd bod caru dwr yn defnyddio  y dechnoleg newydd yma yn y ffordd cywir a diddorol a bod Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi gymaint o adnoddau pwysig i chi am ddim.

Diolch am ddarllen gan Mali Collins a Manon Hammond.

 

 

 

Share this article

Posted by

emma

emma

Comment on this article