Gohebwyr Llais y Maes yn Herio Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales

4 August 2015

Bues i’n rhan o dîm o ohebwyr Llais y Maes a oedd yn rhan o drafodaeth fyw Radio Cymru amser cinio gyda chyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies. Y pwnc dan drafodaeth ar raglen Garry Owen, Taro’r Post, oedd sefyllfa’r cyfryngau yng Nghymru ac a oes yna ddyfodol disglair i’r cyfryngau ai beidio?

 

FullSizeRender-26

Dechreuodd y rhaglen am 1 o’r gloch ac am ugain munud roedd cyfle gennym ni wrando ar gyfweliad Garry Owen â Rhodri Talfan Davies a chwestiynu’r hyn a oedd yn cael ei ddweud gan Rhodri. Anelon ni nifer fawr o gwestiynau heriol at Rhodri megis yn sgîl yr holl doriadau sy’n wynebu’r cyfryngau dros y misoedd nesaf, tybed a fydd swyddi ar gael i ni fel graddedigion y dyfodol neu a fyddai’n well i ni fynd i chwilio am swyddi mewn meysydd eraill? Pwysleision ni hefyd nad oes digon o ddarpariaeth i bobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly mae nifer o bobl ifanc yn teimlo eu bod yn gorfod troi at gynnwys Saesneg yn lle er mwyn darganfod cynnwys sy’n fwy perthnasol iddynt.

Yn sicr, roedd hon yn drafodaeth danbaid a roddodd hyn gyfle gwych i ni allu gofyn cwestiynau sy’n dân ar ein croen ac yn ein poeni fel newyddiadurwyr posib y dyfodol.

Article tags

Share this article

Comment on this article