Gweithdy Aled Hall: Sosban fach

9 August 2014

Heddiw ym Maes D roedd Aled Hall, y canwr opera enwog ac aelod o ‘Tri Tenor Cymru’ yn cynnal sesiwn ganu i ddysgu pobl i ganu ‘Sosban Fach.’ Mae’n gân adnabyddus, ond ymddengys nad yw pawb yn gwybod y penillion olaf. Bwriad y sesiwn heddiw felly oedd i addysgu y rheiny ac i roi siawns i ofyn cwestiynau i Aled ei hun. Roedd yr amser a dreulion ni ym mhabell Maes D yn hollol ddifyr – heb os, un o fy uchafbwyntiau o’r wythnos gyfan! Aled Hall yw un o’r dynion fwyaf hyderus, talentog a doniol rydw i wedi cwrdd ag ef- roeddwn i’n chwerthin yn gyson!

Cerddon ni mewn i’r stafell i dystio Aled yn sefyll wrth biano mewn crys, siorts denim a trainers – fyddech chi fyth yn meddwl ei fod yn ganwr opera byd-enwog! Yn wên o glust i glust, roedd e’n croesawu Eisteddfotwyr i mewn er mwyn ymuno a chanu anthem Llanelli fel un côr mawr. Dysgon ni yr holl gân enwog a ganwyd ar hyd a lled y maes eleni gydag Aled. Clywais i leisiau pawb – o blant i hên bobl- wrth i lais Aled atseinio dros y gweddill. Llais anhygoel a chreftus sydd gan Aled Hall ac mi roedd hi’n rhywbeth anhygoel gweld person talentog fel fe yn ddiddanu y ‘stafell i gyd!

Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gydag Aled Hall

Beth yw’r diweddaraf gyda car dy dad Aled? Welais i bobeth ar drydar.

“Wel, mae popeth yn iawn! Dylai ddweud y stori yn siwr? Wel, ychydig o wythnosau yn ôl yn ystod y stormydd mawr, roeddwn i’n gyrru adref o gyfarfod gyda’r BBC. Doeddwn i ddim yn bell o Gaerfyrddin, a gwnaeth goed gwympo ar fy nghar, o’n i’n lwcus iawn!”

“Pedwar cam arall, a fyddwn i  fel Dafydd y gwas – yn ei fedd!”

“Wrth gwrs roedden i’n gyrru ond ‘o’n i’n gyrru car fy nhad felly mae fy nghar i yn ffein!”

“Profiad brawychus iawn ond rydw i ‘ma i ddweud y stori – roedd rhywun yn edrych ar fy ôl i diwrnod ‘na”

Pwy o’r Tri Tenor Cymru sy’n fwyaf tebyg i Pavarotti?

“Wel, mae’r tri gwreiddiol yn wahanol iawn yn ffyrdd ei gilydd, yn yr un ffordd â ni wrth gwrs. Yn bersonol, hoffwn i ateb a ddweud “Fi ‘di Pavarotti” ond ni ellir cymharu unrhywun gyda fe. Mae llawer o bobl yn hoffi’r ddau arall, ond rydw i wedi bod yn ffan mawr, yn enwedig pan oedd e’n ifanc. Mae ei ganu yn hollol naturiol. Yn ei ugeiniau cynnar, wnaeth Pavarotti ganu yr holl rannau mawr sydd yn cymryd blynyddoedd i ddysgu fel dyn yn 22 neu’n 23. Mae ei lais yn mor Eidaleg, mor naturiol, ac hynny yw’r fath o lais rydw i’n hoffi.”

Beth yw dy hoff gân i ganu?

“Fy holl gân? Wel mai hynny’n gwestiwn caled gan fod shwd gymaint o wahanol Gerddoriaeth.. ond ie, fy hoff gân yw Nessun Dorma. ‘Nai byth anghofio yn 1990 yn ystod cwpan y byd lle wnaeth Pavarotti canu Nessun Dorma! Gyda’r perfformiad hynny, ddaeth Pavarrotti âg opera i’r byd a newidiodd popeth i gantorwyr opera, daeth y fath yma o gerddoriaeth yn boblogaidd eto. Os mae unrhywun yn chwarae Nessun Dorma yn y byd yn union rwyt ti’n meddwl am y dyn fawr. Mae wefr mawr i mi i wrando ar Pavarotti. Byth fyddai’n anghofio’r tro bryd wnes i weld Pavarotti yn neuadd yr Albert Hall lle wnaeth blew sefyll i fyny ar fy gwddf – anghofia’i byth y torf in fynd yn hollol wallgo.”

Ble yw’r lle mwyaf egsotig rwyt ti wedi canu?

“Y lle mwyaf egsotig rydw i wedi canu ynddi yw Bermuda. Roeddwn i’n digon ffodus i gael fy ngwahodd yno pan oeddwn i’n wrthi’n astudio yn yr Academi Brenhinol o gerddoriaeth, Llundain. Cafodd pedwar ohonym ein dewis i berfformio Handel gan Maseia – roedd hi’n hollol hyfryd. Canon ni mewn eglwys gadeiriol ar yr ynys Bermuda sydd ddim yn fawr iawn yn yr haul ‘scortching’ Roedd hynny’n trip a hanner, taith bythgofiadwy.”

Ble yw dy holl le che fuo’ch chi’n ganu?

“Fy hoff le rydw i wedi canu ynddi yw’r Albert Hall. Dw i wedi bod yn digon lwcus i allu berfformio operai ar lwyfan gylch yno gyda Cwmni Raymond Gubbay sy’n rhoi ‘mlaen berfformiadau yno megis ‘Carmen’ a ‘Tosca’. Bellach, rydw i wedi ymddanogs yna bron 300 o weithiau – a does dim llawer o ganwyr Gymraeg medru dweud hynny – mae’n prin iawn a felly dwi’n falch iawn o hynny.”

“Mae’n rhaid i mi hefyd dweud wrthoch chi am y profiad ces i yn Siapan. Ces i wahoddiad i Siapan i ganu yn Figero mewn ganolfan yng nghanol Tokyo. Mae’n rhaid dweud bod y le yw’r le gorau rydw i wedi canu oherwydd yr atsain acwstig. Mae’r pobl yma yn gwybod sut i adeiladu’r lefydd yma.”

Wrth i’r sesiwn ddod i glo, gwnaeth Aled annog iddyn ni ddychweled gyda – “Call again next week at the same time!”

Heddiw, ces i brofiad gwych, nid yn unig gan wnes i gwrdd â’r seren Gymraeg yma ond ges i’r siawns i ganu anthem genedlaethol Llanelli yn nhref y Sosban!

imageimage

Share this article