Gwyddoniaeth yn Tanio Diddordeb Ymysg Plant

4 August 2015

Mae nifer o stondinau yn cynnig gweithgareddau di-ri draw ym mhabell Gwyddoniaeth a Thechnoleg . Un o’r stondinau yw stondin Prifysgol Abertawe sy’n cynnig cyfres o arbrofion ar gyfer annog diddordeb plant a rhieni mewn gwyddoniaeth. Bues i’n trafod â Scott Clarke, myfyriwr Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe i weld pam fod hyn mor bwysig.

Mae Scott yn rhan o’r tîm o Brifysgol Abertawe a STEM, sef Science, Technology, Engineering and Mathematics, sy’n ceisio annog plant i gymryd mwy o ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Bwriad STEM yw cael mwy o bobl yn astudio’r pynciau hyn gan fod galw mawr ar bobl i fynd i weithio yn y meysydd hyn. Trwy wneud gwyddoniaeth yn syml a diddorol, y gobaith yw bydd mwy o blant, oedolion ac yn enwedig merched yn penderfynu eu bod am weithio yn y meysydd hyn.

Cefais i’r cyfle i gael tro ar yr arbrofion ac roedd canlyniadau rhai ohonynt wedi fy synnu!

Y gweithgaredd cyntaf oedd arogli potiau o wahanol aroglau ac yna dyfalu beth oedd yr arogl. Roedd yr aroglau i gyd yn aroglau cyfarwydd o fwydydd ond roedd yn ddiddorol i weld pa gemegion sy’n rhan o’r aroglau hyn.

20150804_113415Roedd yr ail weithgaredd yn hynod ddiddorol a’r mwyaf addysgiadol yn fy marn i. Roedd Scott yn tynnu llun ar ddwylo’r plant gyda phen ond doedd y plant ddim yn gallu gweld y llun. Wedyn goleuodd Scott olau UV ar y llun ac ymddangos yr wyneb hapus roedd wedi tynnu ar ddwylo’r plant. Gofynnodd Scott i’r plant wedyn i rwbio hufen dwylo ar eu dwylo ac unwaith eto, chwifiodd y golau UV dros eu dwylo. Y tro yma, roedd yr wyneb wedi diflannu gan fod yr hufen yn cynnwys agweddau i ddiogelu rhag pelydrau UV yr haul. Pwysigrwydd yr arbrawf hwn oedd addysgu plant am bwysigrwydd defnyddio eli haul i’w ddiogelu rhag pelydrau UV yr haul ac nad yw hufen dwylo arferol yn eich diogelu.

20150804_113126Heb os, yr arbrawf fwyaf poblogaidd ymysg y plant oedd yr arbrawf gyda’r tywod ‘hudol’. Mae gan y tywod agweddau arbennig sy’n golygu nad oes modd iddo fynd yn wlyb. Roedd y plant wedi eu synnu gan y tywod sych er bod dŵr yn y pot gyda’r tywod. Mae hyn yn golygu bod y tywod yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer glanhau gorlifoedd olew ac yn gallu amsugno’r olew oddi ar anifeiliaid sydd wedi eu heffeithio gan orlifoedd olew.

Mae cymaint o bethau i’w gweld nid yn unig ar stondin Prifysgol Abertawe ond ar yr holl stondinau felly os ydych yn edrych am rywbeth i lenwi’ch amser tra eich bod ar y Maes, ewch i ymweld â’r babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg; ni chewch eich siomi!

 

 

Article tags

Share this article

Comment on this article