Lleu Bleddyn

1 August 2017

Helo!

Dwi di byw ym mhentref Llanbrynmair am y mwyafrif o’m mywyd, ond bellach yn astudio gradd mewn Cymraeg a Newyddiaduriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wedi i mi dreulio blwyddyn yn gwireddu breuddwyd o wirfoddoli a theithio i bob cwr o’r byd, rwyf bellach yn mwynhau dim byd gwell na chymdeithasu dros beint a chwarae rygbi i fy nhîm lleol.

Rwyf yn lysgennad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a newydd gael fy ethol i bwyllgor cyntaf Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd ac yn edrych ymlaen at flwyddyn hynod o gyffrous i fyfyrwyr Cymraeg yn y brif ddinas.

Edrychaf ymlaen i ehangu fy sgiliau newyddiadurol drwy gydweithio a chyd fyfyrwyr, darlithwyr a newyddiadurwyr profiadol yn y ‘Steddfod eleni.

@lleubledd

Share this article

Comment on this article