Merched ysgol yn rhoi gwers dros y gwyliau

4 August 2015

Mae Syfi a Siwan, 8, wedi bod yn rhoi gwers am waith Stonewall Cymru heddiw. Tra bod y stondin wedi bod yn ganolfan i bobl ddysgu mwy am eu gwaith, mae’r merched wedi bod ar grwydr gyda sticeri sy’n cynnwys gwahanol fathau o deuluoedd.

IMG_20150804_110406

“Wel, fan hyn mae mam a tad, un plentyn… Mae mam a dad, tri plentyn, mae mam-gu a dau fachgen a merch… Ac yma, mae dau dad, a merch a bachgen.” Dwedodd Syfi wrthyf i. Pan wnes i ofyn pam mae’r sticeri’n bwysig, atebodd Siwan, “achos dych chi ddim yn wahanol i un teulu arall.”

IMG_20150804_110801

Roedd ganddyn nhw mwy nag un neges bositif i rannu. “Dim ots am y tywydd, dyn ni dal yn joio!” Oedd eu hateb pan soniais i am y glaw.

Os bydd digon o helpwyr mor brwd a positif gyda Stonewall, bydd yn sicr yn llawer hawsach i ledaenu’r neges yn y dyfodol. Gallwch chi weld a chlywed mwy am eu gwaith yn ei stondin ar y maes, neu ar eu gwefan:

http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/

IMG_20150804_110226

Article tags

Share this article

Comment on this article