Nodweddau’r ‘Steddfod

2 August 2015

Gyda’r ‘Steddfod yn ŵyl flynyddol felly hefyd mae’r pethau sy’n nodweddiadol ohoni. Heb os, rydym yn gweld yr un pethau yn ymddangos gyda phob ‘Steddfod. Dwi felly wedi bod o amgylch y Maes yn nodi’r pum peth sy’n eich gwneud chi’n ymwybodol ac sy’n angenrheidiol ar gyfer ‘Steddfod hapus a llwyddiannus:-

1. Wellies – Mae’n holl bwysig cofio dod â’r rhain gyda chi!

20150802_162230

2. Sbectol Haul – Mae’r rhain yn angenrheidiol ar gyfer y tywydd heulog.

 

20150802_162316

3. Peint o gwrw – Wel, mae’n draddodiadol i gael o leiaf un o’r rhain wrth i chi fwynhau’r gerddoriaeth!

20150802_161745

4. Bwyd – Pa beth gwell i gael i gyd-fynd â’ch peint o gwrw?!

20150802_161844

5. Freebies – Ni fyddai’r ‘Steddfod yn ‘Steddfod heb y rhain!

20150802_16212720150802_162141

Trwy gael y pethau hyn i gyd, mae’n sicr mi fydd y ‘Steddfod yn un cofiadwy i chi!

Article tags

Share this article

Comment on this article