Nos Fawrth yn y Thomas Arms

6 August 2014

 gigs Cymdeithas gyda’r hwyr bellach yn eu hanterth mewn amrywiol leoliadau ar draws tref y sosban, roedd arlwy nos Fawrth yn y Thomas Arms yn addo plesio. A phlesio yn wir a wnaeth Uumar, Siddi, Lovgreen a’r band, heb anghofio Steve Eaves yntau wrth gwrs.

Uumar fu’n gosod y safon ar gyfer gweddill y noson wrth i’r dorf lifo i mewn drwy’r drysau a ‘doedd hi ddim yn hir nes oedd yr ystafell gefn dan ei sang; roedd tocynnau yn brin tu hwnt wedi iddynt werthu allan oriau o flaen llaw.

Cafwyd set egnïol gan y band weddol newydd yma i’r sîn, sydd â’i aelodaeth yn hannu o’r gogledd yn wreiddiol, ond a gafodd ei ffurfio’n y brifddinas.

Wedi i set Ummar gyrraedd penllanw cynhyrfus bu ychydig o ‘newid gêr’, fel petai wrth i Siddi gymryd yr awennau gan dawelu pethau unwaith eto. Roedd y drefn hon yn baratoad perffaith i’r gynulleidfa at yr hyn a oedd i ddod weddill y noson – wedi’r rhagflas gan Uumar bu cyfle i fwynhau awyrgylch dawel, hardd a dwys,ar brydiau, yn set Siddi. Gyda phob un llygaid a chlust yn yr ystafell wedi eu hoelio arnynt, doedd prin ddim swn cefndirol i’w glywed gyda hyd yn oed rheiny wrth y bar yn prynu peint dan sibrwd. Diolchodd Branwen,y prif gannwr, i’r gynulleidfa ar ddiwedd y set am eu derbyniad “pan ‘da chi’n chwarae cerddoriaeth mor dawel â ni” mae hi wastad yn ofni nad oes “neb am wrando”. Teg yw dweud y bu pawb yn gwarndo’n astud – a hynny’n brawf o’u mwynhad.

Byddai hi ddim yn gig Cymdeithas yr Iaith heb ddychan iach o’r sefydliad Cymraeg! A dychan a gafwyd ym mherfformiad Geraint Lovgreen. O benaethiaid S4c i Efa Gurffydd Jones a’r MBE i helyntion Aelodau Cynulliad gyda’r hwyr-fe gawsant oll gelp yn eu tro gan Lovgreen a’r band. Roedd hynny’n sicr at ddant y gynulleidfa. Perfformiodd gân newydd am y tro cyntaf yn ogystal, cân a ysgrifennodd ar gyfer tîm Talwrn y Berirdd Caernarfon- y tim buddugol yn ffeinal y Talwrn eleni wrth gwrs ! Aeth y stwff hŷn i lawr cystal hefyd, megis ffrwyth llafur y diweddar Brifardd Iwan Llwyd ymysg eraill.  Fe gadwodd yr hen ffefryn “Yma Wyf Innau i Fod” tan y diwedd gan ddod â’r set i benllanw corawl bron gyda’r gynulleidfa’n fwy na pharod i gynorthwyo. Fe weithiodd tric Lovgreen o gyflwyno’r gân fel can am dre’ Caernarfon ond un a all fod am “eich tref o ddewis” yn wych! Teg yw dweud, a barnu wrth yr ymateb ,bod y gân hon wedi gweithio cystal yn nhref y Sosban ag y byddai’n nhref y Cofis- os nad yn well!

Steve Eaves

Roedd perfformiad olaf y noson yn bendant yn haeddu ei briod le ar frig yr amserlen. Profiad gwefreiddiol oedd perfformiad Steve Eaves a dweud y lleiaf. Roedd y canwr a’r band yn eu helfen wedi llwyr ymlacio ac nid yn unig y diffyg esgidiau am draed Steve a’i ferch sy’n brawf o hynny. Afraid dweud bod y gynulleidfa yntau yn yr un man ag ef o ran mwynhad, nid y unig gyda’r encore ond hefyd wrth yr holl negeseuon o ganmoliaeth a fu’n llenwi Twitter wedi’r gig. Yn anffodus does gan y criw ddim lluniau o’r perfformiad i’w rhannu gyda chi – mwynhau gormod mae’n rhaid!

Biti y canwyd cloch y bar mor fuan wedi diwedd set Steve Eaves a bu rhai’n dweud y byddai llai  o gadeiriau a mwy o lefydd i sefyll wedi bod yn ychwanegiad braf.Er, roedd rhywbeth braf am y to iau yn eistedd ar y llawr o flaen y rhesi o gadeiriau – arwydd o ba mor gynhwysfawr yw gigs Cymdeithas a chymaint ydyw eu hapêl.

Hoffai Llais y Maes ddiolch i drefnwyr Gigs Cymdeithas am y croeso’r wythnos hon.

Share this article

Comment on this article