O le chi’n dod?

1 August 2015

O le chi’n dod? / Where do you come from?

Eleni rydym ni fel Tîm Llais Y Maes wedi penderfynu herio ein hun i gwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf anarferol ym myd yr Eisteddfod, wrth ofyn y cwestiwn ‘O le chi’n dod?’
Heddiw nython ni cael y fraint o gwrdd â Hank, dyn o Seland Newydd! Trafaelodd Hank a’i wraig, sydd â theulu o Gymru, dros bump awr ar hugain er mwyn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau. Yn ôl Hank, er nad oedd e’n siaradwr Cymraeg, roedd e wrth ei fodd  yn yr awyrgylch uniaith Cymraeg yn ystod ei ymweliad cyntaf i Gymru.
Ar ôl bore o grwydro’r maes roedd Hank yn dweud mai’r amrywiaeth o bethau mae’r Eisteddfod yn cynnig gwnaeth ei blesio yn fwyaf, o gystadleuaeth y Côr Cymysg yn y Pafiliwn prynhawn yma i’r dewis o stondinau a phabelli o amgylch y maes, mae’n edrych ymlaen at dreulio’r diwrnodau nesaf yn darganfod beth arall mae’r Eisteddfod yn ei gynnig.
Os fel Hank, rydych chi wedi teithio o bell er mwyn ymweld yr Eisteddfod, rydyn ni am glywed ganddoch chi!!

Article tags

Share this article

Comment on this article