O Le Ti’n Dod?

6 August 2015

Dyma Rhiannon Hincks sydd newydd raddio o Brifysgol Caerdydd ar ei diwrnod cyntaf ar Faes y ‘Steddfod. Yn wreiddiol, mae Rhiannon yn dod o Aberystwyth ac mae’n edrych ymlaen at fynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn.

Ym marn Rhiannon, mae safle’r Eisteddfod a’r Maes llawer gwell eleni i gymharu ag Eisteddfod y llynedd gan fod popeth llawer yn agosach ac yn haws ei gyrraedd i gymharu â gorfod teithio o un ardal i’r llall y llynedd.

Bydd Rhiannon yn treulio’r diwrnod yn cerdded o amgylch y stondinau cyn mynd draw i fwynhau ym Maes B heno.

Article tags

Share this article

Comment on this article