O Le Ti’n Dod?

6 August 2015

Bydd pawb yn adnabod yr wyneb cyfarwydd hwn. Wrth gwrs, y gantores boblogaidd Elin Fflur yw hon ac os nad oeddech yn gwybod yn barod, mae Elin yn dod o Ynys Môn ac mae hi wedi bod yn teithio nôl a mlaen rhwng Ynys Môn a’r Maes dros y dyddiau diwethaf. Cyrhaeddodd y Maes ddydd Sadwrn ac mae ei hwythnos hi wedi bod yn perfformio trwy’r wythnos mewn cyngerdd ac ar draws y Maes.

Mae Elin yn mynd i’r Eisteddfod bob blwyddyn ac yn ôl hi, “uchafbwynt blynyddol” yw’r Eisteddfod iddi hi. Dywedodd hefyd ei bod hi’n teimlo bod yr Eisteddfod fel “pentref mawr” ac mae hi’n hoff iawn o’r Eisteddfod eleni gan fod “bob dim yn agos” i’w gilydd ar y Maes.

Article tags

Share this article

Comment on this article