O le ti’n dod?

4 August 2015

Dros y diwrnodau diwethaf ni di bod yn ddigon lwcus i gwrdd â phobl sy ‘di teithio o bell i ymweld â’r Eisteddfod eleni. Cefais y fraint o gwrdd â Supachai Chuenjitwongsa, dyn o Wlad Thai a ddaeth draw i Gymru i barhau ei addysg uwch ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn y broses, wedi dysgu Cymraeg.

Mae Supachai wedi byw yng Nghymru ers 2011 ac wrth iddo gychwyn ar ei PHD penderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg, a bellach yn siarad yr iaith yn rhugl. Ei rheswm dros ddysgu Cymraeg yn wreiddiol oedd i ddarllen ac ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir, ond wrth iddo barhau i fwynhau ei gwersi wythnosol datblygodd diddordeb yn fwy na’n iaith, ond hefyd ein diwylliant. Felly, mae wrth ei fodd yn ymweld ar Eisteddfod, ac nid eleni yw ei flwyddyn gyntaf, buodd i Eisteddfod Dinbych 2013 ac wedi mwynhau mas draw.

Supachai, a student at Cardiff Uni from Thailand, started learning Welsh in January 2011

 

Er, eleni, daw Supachai i’r Eisteddfod fel cynrychiolydd o Brifysgol Caerdydd er mwyn helpu lansio cynllun ‘Cymraeg i Bawb’. Ddoe, siaradodd â’r gynulleidfa tu fewn i babell y Brifysgol amdano bwysigrwydd yr iaith Gymraeg iddo fe, a’i rhesymau dros ddysgu’r iaith. Ysgrifennodd Sophie, un o aelodau Saesneg tîm Llais y Maes, am y lansiad a rhesymau’r brifysgol dros gynnig y cwrs Cymraeg i ddysgwyr ar ein gwefan. Os hoffwch chi clywed mwy am brofiad Supachai neu a diddordeb yn y cwrs eich hun, darllenwch erthygl Sophie:- http://bit.ly/1KMrEqW

 

Article tags

Share this article

Comment on this article