Paratoi’r 150 Mlwyddiant: Presenoldeb Y Wladfa ar faes yr Eisteddfod

6 August 2014

Mae presenoldeb Y Wladfa ym Mhatagonia’r wythnos hon yn gryfach nag erioed, gyda thri o stondinau yn cynrychioli’r rhanbarth ar faes yr Eisteddfod eleni. Wrth gwrs mae’n adeg bwysig i’r Archentwyr Cymreig: gyda 150 mlwyddiant Y Wladfa yn cymryd rhan flwyddyn nesaf, mae digon o hyrwyddo a hysbysu i’w wneud er mwyn sicrhau llwyddiant y dathlu yn 2015.

Ac mae wedi bod llawer o ddiddordeb hyd yn hyn, yn ôl Margarita Green, o Ddrefelin, Chubut, sydd wedi bod yn brysur yn siarad ag ymwelwyr yr Eisteddfod ar stondin Chubut Patagonia Ariannin. Pwrpas y stondin yw hysbysu’r ymwelwyr o weithgarwch y Wladfa, yn enwedig ynglŷn â’r flwyddyn nesaf.

Fydd y dathlu yn 2015 yn fwy nag erioed. Uchafbwynt y 150 mlwyddiant yw dathliadau Gŵyl y Glaniad ar y 28 o Orffennaf 1865. Mae’r diwrnod yn garreg filltir i ban glaniodd 153 o Gymry Cymraeg oddi ar lond y Mimosa, ym Mhorth Madryn, gan gychwyn un o’r mentrau gwladychfeydd mwyaf mewn hanes.

Mae’r gobaith y bydd nifer fawr o Gymru’n mynd i’r Wladfa y flwyddyn nesaf, ac mae Margarita yn pwysleisio y bydd “croeso mawr i bawb sy’n mynd”, gyda teuluoedd yn agor eu drysau i dderbyn Cymry i’w cartrefi.

Mae’r ‘Cynllun Cartref’ yn cynnig llety i bwy bynnag sydd am deithio i’r wladfa gyda’r gobaith y bydd y rheiny’n fodlon gwirfoddoli yn y gymuned drwy ddarparu ryw wasanaeth i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gymuned fel, er enghraifft, darparu gwersi canu i’r plant. Mae fwy o wybodaeth ar wefan y prosiect Patagonia 2015.

Mae stondin Teithiau Tango yn gwerthu teithiau cyflawn, a rhai mwy rhydd ar gael hefyd. Mae’r tripiau’n prysur lenwi, felly bwciwch yn fuan os oes gennych chi ddiddordeb.

Yn ôl Ivonne Owen o stondin Cymdeithas Cymru-Ariannin, a chadeirydd gorsedd y Wladfa, mae ysgolion dwyieithog yn sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu, ac felly mae cysylltiadau rhwng Cymru a’r Ariannin yn “hollbwysig”.

Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut wedi bod yn weithredol ers 15 mlynedd, yn cyfrannu’n helaeth tuag at gynnal a hybu’r Gymraeg a’i diwylliant. Yn 2011 roedd dros 260 awr o wersi’r wythnos ac 846 yn mynychu’r dosbarthiadau. Soniodd Margarita am sut mae’r Gymraeg wedi bod yn diflannu’n raddol o’r rhanbarth wrth i’r genhedlaeth hynaf farw allan.

Os ‘da ni ddim yn llwyddo i gael ysgolion dwyieithog ar gyfer dysgu’r iaith i’r pant, fyddwn ni wedi colli’r iaith mewn ychydig o amser”, ac mae’r cynlluniau sy’n gweithredu yn sicrhau cysylltiadau’r ddwy wlad gyda’r gobaith y byddwn ni’n dal i ddathlu ymhen hanner canrif arall.

Mae’n hyfryd gael clywed acen yr Archentwyr Cymreig ar faes yr Eisteddfod, wrth iddyn nhw siarad yn eu Cymraeg di-nam. Mae’n bwysig iawn fod gyda’r Wladfa bresenoldeb yng Nghymru heddiw, a bod dal cysylltiadau i’w gael 150 mlynedd wedi’r fordaith dyngedfennol gyntaf. Yr Eisteddfod yw’r lle perffaith i warchod y cysylltiadau rheiny.

“Dyma’n tras, dyma’n gwreiddiau ni. Mae ôl y Cymry ar bob pentref lleol yn yr enwau Cymraeg sy’n dal i fod” ac er mwyn sicrhau dyfodol Cymreig i’r Wladfa, mae gofyn i ni fel Cymry i adlewyrchu’r balchder sydd mor amlwg yn yr Archentwyr fel Ivonne a Margarita. Gyda chroeso cynnes ymhob un o’r stondinau i ofyn cwestiynau, trafod a dysgu mwy.

Share this article

Comment on this article