Parch mawr at Fflur Dafydd!

4 August 2016

Ddoe am 11.00y.b. yn y Sinemaes, rhagolwg ail gyfres Parch oedd wrth y llyw!

Roedd y Sinemaes yn llawn dop gyda phob sedd wedi ei llenwi a phawb yn awchu i ddarganfod atebion ers y gyfres ddiwethaf.

Roedd Fflur Dafydd yr awdures yn bresennol ynghyd â’r cyfarwyddwr Rhys Powys i roi gair cyflym am gefndir y bennod ar ddechrau’r sesiwn. Braf iawn hefyd oedd gweld rhieni Carys Eleri, prif actores ‘Parch’,  yn gwenu o glust i glust drwy gydol y perfformiad.

Heb unrhyw syndod, doedd y bennod gyntaf ddim yn siomi! Wedi awr o hiwmor ag amwysedd, roedd y gynulleidfa yn barod yn eistedd ar flaen eu sedd eisiau gwybod mwy! Roedd y gymeradwyaeth ar ddiwedd y rhagolwg hefyd yn brawf fod y gynulleidfa wedi eu plesio!

Rhaid canmol lleoliad y digwyddiad yn ogystal. Roedd y Sinemaes, â oedd mewn tipi, wir yn creu awyrgylch cynnes a phwrpasol ac yn cynnig rhywbeth gwahanol, modern i faes yr Eisteddfod.

Safonol iawn oedd y llun ar y sgrin, yn ogystal â’r sain a’r goleuadau! Profiad braf dros ben, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y gyfres.

Share this article

Comment on this article