Pigion Y Dydd: Dydd Iau

7 August 2014

Ynghyd â’r tywydd braf heddiw, daeth y torfeydd o ymwelwyr i’r maes, Heb os, heddi’ yw’r diwrnod fwyaf prysur hyd yn hyn ar y maes eleni! Felly dewisais fy mhigion ac uchafbwyntiau wrth i’r holl weithgareddau ddatblygu trwy gydol y dydd.

Peth cyntaf bore ma’ wrth edrych o amgylch y maes yn tynnu lluniau i lwytho i’n gwefan, nes i sylwi bod y carafán hardd ger llwyfan y maes yn dawel ac yn wag.. felly ges i’r cyfle i ymlacio cyn y diwrnod prysur o fy mlaen.

Ymlaciais yn y garafán eiconig a leolir ger y Pentref Bwyd, sydd yng nghanol y swn i gyd ond eto yn dawel ac i ffwrdd o’r torfau i gyd . Mae celf i’w weld ar draws y  maes, ac mae’r carafan yma fel symbol o Faes Carafanau eiconig yr Eisteddfod. Mae’r awyrgylch tu fewn i’r garafán yn mor heddychlon, yn dawel ac yn oeraidd ar ddydd poeth fel heddi’. Mae’r garafán wedi’i addurno gyda goleuadau, calonnau pren mewn arddull wledig yn lliwiau pastel – mae’n bert iawn!

IMG_0174 IMG_0176 IMG_0175

Am un o’r gloch heddi, aethon ni fel tîm i gwrdd ag ymwelwyr oedd yn crwydro’r maes wrth babell Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ein prif nod oedd cael cymaint o bobl mewn un llun ‘selfie’ a oedd yn bosib. Cawson ni cymaint o ddiddordeb o bobl o bob oedran, pob acen ar draws Cymru a dyma rhai o luniau fe cymeron ni!

Selfie Mr UrddIMG_4395IMG_4383IMG_4375

Y bore ma , ges i gyfweliad gyda  aelod o dîm tân ac achub Llanelli, Alan Jones, fel rhan o’n erthygl ddyddiol Ymwelydd y Dydd. Peth cyntaf wnes i sylwi oedd y beic modur anferth tu allan i’w stondin, ac roeddwn i’n awyddus i gael eistedd arni. Ces i fy llun fel plentyn bach o chwe’ mlwydd oed – dwi’n awgrymu’n fawr ddylai pawb sy’n ymweld â’r maes eleni cael llun ar y beic yma!

IMG_0198

Dyma ni felly ar ddiwedd y chweched dydd, dros hanner ffordd ac wedi cyhoeddi bron i gant o erthyglau ar ein wefan! Gobeithia bod pawb yn joio darllen Llais y Maes ac wrth gwrs yn gweld fod shwd gymaint i wneud ac i’ch ddiddanu ar y maes eleni yn Sir Gar’ fel ni.

Article tags

Share this article

Comment on this article