2 August 2014

Pigion Y Dydd – Dydd Sadwrn

Bob dydd yr wythnos yma, fe fydd aelod o’n tîm yn dewis eu huchafbwyntiau o gwmpas y maes. Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod wnes i ddarganfod lot i ddiddanu ymwelwyr o bob oedran.

BWYD a’r BAR – pwysicaf!

Ar Cae Llwyfan, wrth i ymwelwyr gerdded tuag at y Pentref Bwyd, gellir arogli sawl fath o brydiau bwyd. Ar gael mae curri, bwyd pysgod, baps ciw iar, Pitsa Ffwrn Goed, a’r holl cwrw i lenwi boliau yr ymwelwyr eleni! Mae’r merched ar y Bar Gwyrdd i’w weld ar y llun isod yn joio heddi gan wylio bandiau ar lwyfan allanol y maes – maent yn barod wedi cael y profiad o gwrdd a chael llun gyda Rhys Ifans. Mae’r prisau’n eithaf arferol a disgwyliedig gan gymeryd i ystyriaeth brisiau ym mhob wyl boblogaidd arall, ond mae’r pris yn werth y blas yn siwr.

Ty Gwerin

Mae’r Ty Gwerin yn croesawu ymwelwyr i’w pabell i weld a chymryd rhan yn eu harddangosiadau cerddorol. Gwelais i berfformiad heddi ar bibau Cymru, wnes i fwynhau’n diri. Sonir am hen draddodiadau hornau a bibau Cymraeg a chysylltir gyda’r Alban ond maent yn frodorol i Gymru. Mae’r awyrgylch tu fewn i’r babell yn rhywbeth hudol a rywbeth ni ellir ddisgrifio trwy air ysgrifinedig yn unig. Mae’n syniad da i ymweld â’r babell yn bersonol a thystio beth yn union sydd ar gael. Mae bynting lliwgar yn hongian wrth ochr oleuadau hardd sydd bron yn amgáu’r perfformiadau tu fewn gan gau allan gweddill y maes. Ar werth am brisiau rhatach 50c y cwpan yw tê a choffi. Mae menywod croesawgar iawn yn helpu dosbarthu diodydd i’r cyhoedd a welir yn y lluniau isod. Mae’r babell wedi’i osod i fyny mewn ffordd mor ddeniadol a hyfryd, mae’n werth cymryd olwg. Mae’n le arbennig i ymlacio i ffwrdd o frys y maes.

Syrcas i blant

Ym mhabell ar cae y llwyfan nesaf i Caffi Maes B, mae plant yn pentyrru i fewn i babell y syrcas er mwyn dysgu sgiliau newydd. Dewch draw i gael hwyl da’r plant ac i hybu sgiliau newydd i blant.

Stondinau Ffasiwn, dillad a chelfi

Wrth gerdded drwy’r maes, mae yna gymaint o stondinau a siopau, ac mae’n cymryd siopwr da i lwyddo edrych ar bopeth! Yn bersonol, wnaeth ‘Nyth y Gwcw’ a ‘Naomi’ yn enwedig creu argraff. Mae ‘Nyth y Gwcw’ yn gwerthu mathau o gelfyddydau i blant ac oedolion, bagiau, pethau i’r ty ac anrhegion. Mae ‘Naomi’ yn siop ddillad sy’n gwerthu bagiau ffasiynol a phethau ar gyfer gwyliau, gan gynnwys bands i’ch gwallt a sbectol haul ac ati. Hefyd, mae stondyn ‘Kathy Gittins’ yn boblogaidd gyda’r menywod!

 

 

 

Share this article

Posted by

Esther Strange

Esther Strange

Comment on this article