Prif Weinidog: angen sicrhau dyfodol i Addysg Uwch Gymraeg.

1 August 2016

Heddiw ar stondin Pethau Bychain fe ges i’r cyfle i holi cwestiwn i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Fel myfyriwr sydd wedi elwa llawer o gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wrth astudio’r Gymraeg a modiwlau Newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn i’n awyddus i ddarganfod beth yw cynlluniau’r Llywodraeth ynglŷn â dyfodol addysg Gymraeg ym Mhrifysgolion.

Wnaeth Carwyn Jones ddatgeli ei fod yn lansio grŵp fydd yn ystyried sut mae cryfhau’r gwaith mae’r Coleg Cymraeg wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Ychwanegodd bod mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sydd yn gallu astudio drwy’r Gymraeg nag erioed: “Ar un adeg bach iawn o gyrsiau oedd [ar gael] drwy gyfrwng y Gymraeg tu fas i’r Gymraeg ei hunan”. Yn ogystal, dywedodd “mae angen sicrhau bod y gwaith yn parhau.”

Fel rhywun sydd yn mwynhau darpariaeth newydd arloesol ym mhwnc newyddiaduraeth, diolch i fuddsoddiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hynny yn newyddion da. Gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc yn ystyried gwneud dewisiadau am eu haddysg ar sail yr hyn sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Hefyd prynhawn yma, roedd y Prif Weinidog yn casglu barn pobl ifanc ar amryw o bynciau. Wnaeth swyddogion y Llywodraeth ofyn i fi ac wyth person ifanc arall i ddefnyddio ein ffonau symudol i ateb cyfres o gwestiynau ar wefan doopoll.co. Wrth wneud hyn, roedd Carwyn Jones yn gallu darganfod ein barn ni am bethau fel “Pam bod pobl ifanc ddim siarad Cymraeg tu allan i’r ysgol/coleg?” ac “A’i swydd Prif Weinidog yw’r swydd mwyaf pwysig yng Nghymru?”

Roedd yn brofiad gwych i fi sydd yn awyddus i weithio fel newyddiadurwr yn y dyfodol, ac rwy’n falch iawn wnaeth y Prif Weinidog gytuno i ateb cwestiynau Llais y Maes heddiw. Yn sicr mae yna waith i’w wneud i ymgysylltu gyda phobl ifanc yng Nghymru – ond, mae gwarchod addysg uwch iaith Gymraeg yn uchel ar fy agenda i!

Share this article

Comment on this article