Prif Weinidog: “label ail iaith yn gorfod newid”

1 August 2016

Yn ystod sesiwn holi ac ateb gyda Phrif Weinidog Cymru heddiw, gofynnais i am ddilysrwydd addysg Gymraeg ail iaith.
Wnes i fachu ar y cyfle i ofyn i Carwyn Jones a yw cyrsiau a chyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr ail iaith ar hyn o bryd yn creu siaradwyr digon hyderus i ymdopi mewn sefyllfaoedd gyda siaradwyr iaith gyntaf.

Atebodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Na yw’r ateb ac er bod y Gymraeg wedi bod yn orfodol mewn ysgolion, allwn ni ddim dweud bod ni’n creu siaradwyr hyderus yn y Gymraeg. Mae rhaid newid pethau, mae rhaid sicrhau bod y Gymraeg dal i fod yn orfodol ond mae cwricwlwm newydd sy’n mynd i ddechrau mewn cwpl o flynyddoedd.”

Oherwydd fy mod i wedi bod trwy system addysg ail iaith, mae’n bwnc sydd yn agos at fy nghalon. Roedd rhaid i mi ofyn ail gwestiwn felly! Holais ei farn am y label ‘ail iaith’ mae rhai pobl yn teimlo a’r diffyg hyder sydd ynghlwm a hyn.

Roedd y Prif Weinidog yn cytuno ac yn dweud bod angen gweithio ar dorri lawr unrhyw ffiniau sydd yn bodoli, dywedodd “Mae rhaid cael gwared â’r ffin rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith, a sicrhau bod pobl yn gweld e fel continwwm.” Mae’r Eisteddfod yn rhoi’r cyfle i siaradwyr Cymraeg beth bynnag yw eu gallu neu hyder i ddefnyddio’r iaith. Mae Maes D a gwobrau ‘Dysgwr y flwyddyn’ yn dathlu’r rhai sydd wedi dysgu’r iaith ac yn parhau i wella eu sgiliau a hyder.

Mae gweithio ar Lais y Maes yr wythnos hon yn rhoi cyfle gwych i fi i ddefnyddio fy Nghymraeg a datblygu sgiliau newydd fydd yn helpu fi i weithio fel newyddiadurwr yn y dyfodol. Rwy’n cytuno gyda’r hyn dywedodd y Prif Weinidog wrtha:”Dwi moyn sicrhau bod pobl â sgiliau er mwyn siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y pen draw.”

Share this article

Comment on this article