Pwysigrwydd Proses a Syniadau i Gelf

5 August 2015

Un o’r pebyll sydd wedi denu nifer fawr o ymwelwyr yn y ‘Steddfod eleni yw’r Babell Gelf. Wedi ei lleoli ger y brif fynedfa, ni’r allai’r babell fod wedi gofyn am leoliad gwell. Gan fod galw ar bobl i bleidleisio dros eu hoff ddarlun yn #yllecelf ar gyfer gwobr Josef Herman, draw â fi i weld y gwaith. Felly pa dri llun oedd wedi dal fy niddordeb?

Cipio eiliadau

20150805_120518

Y darlun gyntaf a oedd darlun Rhian Hâf o’r enw ‘Cipio eiliadau’. Mae Rhian yn gweithio yng Nghymru ac yn Fenis hefyd ac yn wahanol i’r arfer, y deunydd benna’ mae Rhian yn ei ddefnyddio. Yn achos y darn hwn, mae Rhian wedi defnyddio gwydr ac wedi sandio a chreu haen wahanol i bob darn o wydr er mwyn cyfleu sut mae gwneud y newidiadau bach hyn i wydr yn medru effeithio ar y cysgod mae’r gwydr yn ei daflu dan olau. I Rhian, mae golau, gwydr a chysgod yn holl bwysig. Mae pob bocs yn wahanol yn y darn hwn ac roedd wir yn ddiddorol gweld y gwahanol gysgodion. Mae’n syndod sut mae un newid bach yn gallu cael cymaint o effaith ar rywbeth arall.

Carped coch

20150805_120636

Darn o waith gan Christine Mills yw ‘Carped coch’, enillydd Gwobr Ifor Davies, ac mae hwn wedi ei greu allan o wlân. Er mai ‘Carped coch’ yw’r enw ar y darn, gwyrdd yw lliw’r carped. Symbol o laswellt tir canolbarth Cymru yw’r rheswm dros liw’r carped gan fod tir yn bwysig i’r artist a hefyd i ni fel Cymry. Mae Christine Mills, sy’n byw yn yr ardal, wedi creu’r darn yn arbennig ar gyfer y ‘Steddfod ac mae’r lliw hefyd yn symboleiddio pwysigrwydd y tir ym Meifod a hefyd trwy Gymru gyfan. Fel arfer, byddech chi’n cysylltu’r lliw coch gyda gwin a phethau drudfawr, cyfoethog a phobl enwog ond nid dyna sy’n bwysig i’r Cymry ond yn hytrach y tir. Mae’n amlwg bod y tir wedi cael dylanwad mawr arni.

Cyfres Tirlun // Lliw 2

Y darn o waith olaf a oedd o ddiddordeb i mi oedd darn ‘Cyfres Tirlun // Lliw 2’ gan Sophie Southgate. Cyfres o siapau 3D ymysg siapau 2D oedd y rhain. Dywedodd Catrin mai bwriad yr artist oedd cael pobl i feddwl am natur a’r syniad o fyd natur ac roedd gweld y siapau 2D a 3D lliwgar yn gymysg â’i gilydd yn hynod ddiddorol.

Pa bynnag ddarlun sy’n rhan o’r arddangosfa, prif neges y babell yw’r ffaith mai’r syniadau a’r broses sy’n bwysig ac mewn nifer fawr o achosion, maent yn bwysicach na’r darn o waith ei hun.

Wedi gweld y darluniau i gyd, y llun a ddylai ennill y wobr yw ‘Carped coch’ gan Christine Mills. Mae’r arddangosfa ar agor trwy gydol yr wythnos felly cofiwch i fynd draw i bleidleisio!

 

Article tags

Share this article

Comment on this article