Sesiynau Llais y Maes – Sen Segur

9 August 2014

 

Dyma George, Ben a Alex Sen Segur yn canu ‘Yn Dy Fyd Heddychlon’ tu fas i faes yr Eisteddfod echdoe. Mae’r band yma ar flaen y gad yn y Sîn Roc Gymraeg, yn sefyll ar wahan a dweud y gwir. Bydd eu halbwm ‘Films’ yn cael ei ryddhau ymhen rhai wythnosau, yn addo traciau Cymraeg, Saesneg a rhai offerynnol yn unig. Mae synau seicadelig unigryw y band yn ogystal a’i gwybodaeth a dawn cerddorol yn eu cario nhw, ac mae’r gân syml hon yn deilwng i ba mor effeithiol mae’r band yn medru bod, hyd yn oed a dau aelod (Daf a Geth) yn absennol.

 

Share this article

Comment on this article