Sioe gerdd i goffau Ray Gravell

5 August 2014

Dyma ddyn sydd ddim angen unrhyw gyflwyniad. Meddalodd ei wên galonnau tirgolion ei ffilltir sgwar yn ogystal â Chymru oll. Gyda’r Eisteddfod eleni yn cael ei chynnal yn Llanelli, gofynnwyd i Ysgol y Strade i ail-berfformio ei sioe gerdd ‘Grav’ yn Theatr y Ffwrnes yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Sioe gerdd ydyw sy’n adrodd hanes gyrfaol a phersonol y chwaraewyr rygbi o Mynydd y Garreg mewn ffordd hynod o grefftus. Nia Griffiths a Tudur Dylan Jones sydd wedi llunio y sioe wedi iddynt dreulio amser hir yn ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol a chyd-weithio gyda’r teulu er mwyn sicrhau sioe sy’n adlewyrchu hanes Ray Gravell mewn modd teilwng ohono. Mewn cyfweliad yn ystod y prynhawn hwn, roedd Heather Lewis, Prifathrawes Ysgol y Strade yn diolch iddynt eu dau am eu gwaith caled yn ogystal â gwaith caled y cast o 150 o blant a’r holl sydd wedi gweithio yn dawel a di-ffws tu cefn y llenni.

Cafwyd un perfformiad neithiwr o’r sioe a bydd ail-berfformiad yn cael ei gynnal heno am 7:30 y.h. Bydd 30 o aelodau o deulu y diweddar Ray Gravell yn ogystal â’i ffrind agos, Delme Thomas yn mynychu y gyngerdd heno. Yn anffodus mae’r tocynnau wedi gwerthu allan, ond bûm yn ffodus heddiw i weld detholiad o’r sioe yn cael ei pherfformio ar y maes tu allan i stondin Ysgol y Strade. Roedd gweld brwydfrydedd y plant wrth berfformio a’r emosiwn wrth iddynt ganu yn wefreiddiol. Gobeithio yn wir y bydd CD neu DVD yn cael ei greu o’r perfformiad yn fuan, oherwydd mae llwyddiant y sioe wedi un noson yn unig yn destun trafod ar hyd a lled y maes.

 

Share this article

Comment on this article