Stondin Y Dydd: Adra/Home

4 August 2014

Stondin Y Dydd heddiw ar drydydd dydd yr Eisteddfod Genedlaethol yw Adra Home o Wynedd.

Wedi teithio lawr i Sir Gaerfyrddin mai siop Adra a leolir yng Ngwynedd. Maent yn gwerthu pob math o anrhegion Cymreig chwaethus a chyfoes, a leolir ar stondin rhif 1011-1012 ar y maes yng Nghae Llwyfan eleni. Siaradais â pherchennog y siop, Angharad Gwyn a chynorthwyydd llawn amser, Sara Meredyth. Tro gyntaf Sara yn Eisteddfod Genedlaethol yn gweithio yw hi ond maent yn fynychwr rheolaidd i’r Eisteddfodau am hwyl, dywed. Uchafbwynt y flwyddyn yw’r Eisteddfod gan fod hi’n gyfnod brysur iawn lle bu lawer o fusnes a masnach i’r cwmni, dywed Angharad.

Pwysleisia’r ddwy bod gan y maes teimlad gwahanol y flwyddyn yma yn Sir Gar’ ond hyd yma, mae’r profiad wedi bod yn bositif iawn iddynt. Yr unig broblem mae’r stondin wedi dod ar draws yw methiant â phrosesu taliadau cerdyn trwy’r wifi, felly maent yn ysgrifennu derbyniadau ar bapur. Dywed Angharad sut mae’r tywydd yn annibynadwy iawn, ond mae’r maes yn ymddangos i ymdopi gyda hynny. Dechreuodd y busnes nôl ym mis Tachwedd 2007 a bu’r cwmni’n ymweld â’i Eisteddfod Genedlaethol cyntaf yn ystod Haf 2008. Yn ystod y blynyddoedd gyntaf, roedd y stondin wedi’u leoli yn y neuadd arddangos ond yn raddol symudon nhw i’r rhesi o stondinau. Dewch draw i’r stondin yn fuan am ddêl y diwrnod!

Am fwy o wybodaeth ac i edrych ar yr amrywiaeth sydd i gael, ewch i wefan y siop – https://www.facebook.com/adrahome

IMG_0077IMG_0083IMG_0081IMG_0082

Share this article

Comment on this article