Stondinau at ddant pawb

3 August 2015

Wrth ystyried yr holl stondinau sydd ar y maes eleni mae’n anodd dewis pa stondin i ymweld. Wel, mae Llais Y Maes yma i’ch helpu! Rydyn ni wedi dewis 4 stondin diddorol, sydd werth ei ymweld yn eich amser sbâr. O stondinau celf a chrefft i asiantaeth deithio, yn sicr mae rhywbeth i bawb.

Bodoli. 

Bodoli yw cwmni chrefft o Gastell Newydd Emlyn, sy’n gwerthu gemwaith,  fframiau a llwyau personoledig. Yn sicr, mae cynnyrch Bodoli yn anrhegion arbennig i unrhyw un sy’n bwysig i chi( neu anrheg i chi eich hun). Mae Bodoli yn defnyddio deunydd sydd wedi cael ei ailgylchu i greu cynnyrch . Mae modd prynu pethau sydd wedi cael ei phersonoli trwy’r wythnos . Felly,os ydych am brynu gemwaith a llwyau  ac ati , mae’r darnau unigryw yn aros amdanoch chi.

IMG_1404
Dragontree

Mae Dragontree yn wasanaeth ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed a phobl gydag anabledd dysgu. Mae’r stondin yn gwerthu cynnyrch gwaith llaw  sydd wedi creu gan bobl sy’n defnyddio ‘Dragontree’. O jam i tî-pîs i plant bach , yn sicr mae’r gwaith o safon uchel iawn.

IMG_1384IMG_1380

Teithiau Tango

Teithiau Tango yw asiant deithio wedi ei sefydlu yn Aberystwyth sydd yn trefnu teithiau yn benodol i’r Wladfa. Mae Teithiau Tango yn cynnal teithiau trwy’r flwyddyn i’r Wladfa er mwyn dathlu presenoldeb y Gymraeg yn y Wladfa. Mae nifer o deithiau gwahanol yn cael eu cynnal fel Eisteddfod Trevelin, sef gŵyl diwedd Ebrill. Wrth gwrs, mae Teithiau Tango wedi bod yn brysur iawn eleni gyda dathliadau 150 Patagonia.

IMG_1396

Barddas

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y seremoni coroni heddiw, efallai mai’n syniad ymweld a stondin Barddas. Cylchgrawn barddoniaeth yw Barddas. Ar y stondini mae llyfrau o farddoniaeth lleol, yn ogystal â llyfrau barddoniaeth newydd fel ‘Y Gan Olaf’ Gerallt Lloyd Owen a llawer mwy.

 

IMG_1410IMG_1406

 

Article tags

Share this article

Comment on this article