Taith Stondin Sulwyn i Hyrwyddo’r Eisteddfod

5 July 2014

Mae’r Eisteddfod yn mynd ar daith i nodi 50 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yr wythnos hon, gan alw mewn rhai o farchnadoedd y sir.

A phwy well i arwain y daith hon na Sulwyn Thomas, a bydd cyfle i bobl ddod draw i ddweud helo yn Stondin Sulwyn, i gael clonc ac i glywed mwy am yr Eisteddfod.

Bydd y daith yn cychwyn yn Llandeilo heddiw (dydd Mawrth), ac yna fe fyddwn ym marchnad Caerfyrddin ddydd Mercher, cyn cyrraedd marchnad Llanelli ddydd Iau.  Marchnad Rhydaman fydd y lleoliad ddydd Gwener ac yna fe fyddwn yn cloi’r wythnos yn y Gerddi Botaneg yn Llanarthne, fel rhan o ddiwrnod cymunedol a drefnir gan Gynfor Sir Gaerfyrddin.

Bydd cyfle i brynu nwyddau’r Eisteddfod, i glywed mwy am yr arlwy’n ystod yr wythnos, ac i sgwrsio am waith y Brifwyl yn gyffredinol, ac mae croeso i unrhyw un ymuno gyda ni yn ystod yr wythnos.

Meddai Sulwyn Thomas, “Mae hwn yn gyfle i ni fynd allan i wahanol gymunedau i sôn am yr Eisteddfod, beth fydd ymlaen yn ystod yr wythnos, a cheisio annog pobl i ddod atom i Lanelli ym mis Awst.

“Fe fydd yn hwyl mynd â Stondin Sulwyn ar daith am ychydig ddyddiau, ac rwy’n edrych ymlaen am sgwrs a thipyn o hwyl ar y ffordd wrth i ni grwydro’r sir.  Cofiwch ddod draw i’n gweld ac i ddweud ‘Helo’ – fe fyddwn wrth ein boddau yn eich gweld yn nhrefi’r sir!”

Share this article

Comment on this article