Tocynnau Hamdden yr Eisteddfod ar Werth

30 July 2014

Mae archebion ar-lein yn cael eu cymryd bellach ar gyfer llu o weithgareddau chwaraeon cyffrous sydd wedi’u trefnu ar gyfer yr Eisteddfod eleni.

Bydd dewis di-ri i bobl ifanc yn ystod yr Eisteddfod, sy’n para am wythnos, gan fod amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael gan gynnwys tennis, athletau, criced, pêl-rwyd, beicio, aml-sgiliau, rygbi, tri-golff, boccia a phêl-droed. Hefyd bydd gemau pen bwrdd, gweithgareddau hwyliog i’r teulu, matiau dawnsio, wal ddringo a chornel weithgareddau i’r rhai sydd am roi cynnig ar gamp newydd. Bydd sesiynau poblogaidd Amser Stori Actif i blant dan 5 oed yn cael eu cynnal yn yr Amffitheatr ddydd Mercher, 6 Awst.

Bydd chwaraewyr o dîm y Scarlets, a chynrychiolwyr o We Cycle Wales, hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen llawn hwyl.

Gan ddechrau ddydd Sadwrn, bydd y gweithgareddau sy’n para awr, yn cael eu darparu o lecyn hamdden y Cyngor ar y Maes a gellir archebu ar-lein. Er mwyn ichi allu cymryd rhan, bydd yn rhaid ichi fod â thocyn Eisteddfod ar gyfer y diwrnod hwnnw. Caiff hyd at 20 o blant gymryd rhan ym mhob sesiwn felly cynghorir rhieni i archebu’n gynnar i osgoi cael siom.

Dywedodd y Cynghorydd Colin Davies, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Eisteddfod: “Mae amrywiaeth o weithgareddau cyffrous a hwyliog i’r teulu cyfan gymryd rhan ynddynt yn ystod eu hamser ar y Maes.  Mae’n gyfle hefyd i blant roi cynnig ar wahanol chwaraeon na chânt gyfle efallai i gymryd rhan ynddynt fel rheol.

Cofiwch fynd ar-lein i archebu eich gweithgareddau hamdden.

Share this article

Comment on this article