Top tips am Maes B

5 August 2015

Mae’r diwrnod wedi dod. Noson gyntaf Maes B wedi cyrraedd o’r diwedd. Mae cynnwrf yr ŵyl yn amlwg gyda mwy o ieuenctid Cymru yn crwydro’r Maes heddiw nag arfer, pob un yn edrych ymlaen at y noson sydd i ddod. Ac i ni fel tîm Llaes y Maes yma i helpu chi paratoi!

1)’Dry Shampoo’ – Os i chi am bara’r pedwar diwrnod yn Maes B well i chi gofio eich ‘dry shampoo’ i safio chi rhag rhannu’r cawodydd ‘da gweddill y Maes. Ac yn siŵr, ar ôl diwrnod cyntaf yr ŵyl bydd y tai bach yn llanast llwyr.

FullSizeRender-32

 

 

 

 

 

 

2)Cot law a wellies – Yn anffodus, di ni ddim ‘wastad yn ddigon lwcus i gal tywydd braf dros Maes B, felly, os chi di anghofio eich cot law well i chi edrych am poncho sbâr o amgylch y Maes. 

FullSizeRender-33IMG_20150804_135514

 

 

 

 

 

3)Sach Cysgu – Byddwch chi’n oer iawn yn eich tent dros y diwrnodau i ddod os anghofiwch chi hyn.

FullSizeRender-34

 

 

 

 

 

 

 

4)Tent – Os chi’n bwriadu cal unrhyw fath o gwsg dros y diwrnodau i ddod gwell i chi gofio dod a tent, neu bydd rhaid i chi gystadlu am yr soffa wag olaf yn y Gorlan.

FullSizeRender-35

 

 

 

 

 

 

 

5)Diod – Well i chi gofio digon o ddiodydd i bara chi’r wythnos i sicrhau noswethi llawn hwyl.

FullSizeRender-31

 

 

 

 

 

 

 

Os wnewch chi ddilyn ein rhestr ni chi siŵr o gael wythnos grêt!

Share this article

Comment on this article