Top tips i bara’r wythnos yn y garafán

4 August 2015

Os nad ydych am dalu ffortiwn am westy neu ddim digon dewr i wynebu tywydd Cymru gyda dim ond pabell fel lloches, ymunwch â’r cannoedd o bobl sy’n dod â’u carafanau i Faes yr Eisteddfod. Pob blwyddyn mae nifer helaeth o  deuluoedd eisoes yn dewis ymgartrefi o fewn cae enfawr yng Nghymru dros westy lleol. Ac mae Llais y Maes yma i’ch helpu chi. Ar ôl gwneud bach o waith ymchwil, dyma’r pethau pwysicaf sydd eu hangen arnoch ar gyfer aros mewn carafán yn ystod wythnos y ‘Steddfod:-

  • 1)Te a choffi – Ar ôl diwrnod hir o ‘eisteddfota ‘sdim byd gwell ‘na phaned twym o de.

FullSizeRender-22

 

 

 

 

 

  • 2)’Toilet Fluid’ – Yn sicr nid rhywbeth bydde ar dop rhestr y mwyafrif o bobl, ond yn ôl Mia Peace, Eisteddfodwr profiadol sydd wedi treulio sawl blwyddyn mewn carafán ar y maes, mae’n rhywbeth holl bwysig i gofio.

FullSizeRender-21

  • 3)Wellies a chot law – Yn anffodus, dyw Cymru ddim yn ffodus iawn gyda’i thywydd, felly os nad ydych am dreulio’ch diwrnodau yn wlyb stecs peidiwch ag anghofio eich ‘water proofs’ .

20150802_162230

 

 

 

 

  • 4)Papur tŷ bach – O bosib y peth pwysicaf oll!

FullSizeRender-23

 

 

 

 

  • 5)Bwyd – Well i chi gofio dod â digon o fwyd i bara’r wythnos os nad ydych yn barod i dalu prisoedd y Pentref Bwyd bob dydd.

FullSizeRender-24

 

 

 

 

 

    • Dim haearn smwddio ond angen cael crychau allan o’ch dillad? Dim problem, mae’r fideo yma yn dangos sut ma gwneud…

 

Os cofiwch chi’r holl bethau yma fe gewch chi brofiad maes carafannau ‘Steddfod digon pleserus.

 

 

Share this article

Comment on this article