Y Cwricilwm Cymreig a’r ffordd ymlaen

5 August 2014

Pan gafodd yr hanesydd Dr Elin Jones alwad i swyddfa’r cyn-Weinidog Addysg, Leighton Andrews ddwy flynedd yn ôl credai ei bod yno i gael “stwr” am feirniadu rhyw elfen neu’i gilydd o waith ei Adran. Roedd y gwahoddiad a dderbyniodd, fodd bynnag, ymhell o fod yn “stwr”! Gofynnwyd iddi gadeirio Tasglu’r Llywodraeth yn adolygu’r Cwricilwm Cymreig.

Mae ei hadroddiad bellach yn nwylo’r Gweinidog Addysg presennol, Huw Lewis a fydd yn penderfynnu p’un ai i weithredu’r argymhellion ai peidio. Cyn iddi fwrw ymlaen gyda’r ddarlith, gresynnodd y Dr Jones cyn lleied o sylw y mae’r ymgynghoriad ar yr adolygiad diweddaraf o’r Cwriciliwm yn ei gyfanrwydd yn ei gael.

Yn ei darlith brynhawn ddoe (Llun) ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, amlinellodd yn fras beth yw’r Cwriciliwm Cymreig- sy’n weithredol yng Nghymru ers ddiwedd yr wythdegau bellach. Ym 1987/8 pan benderfynodd y Llywodraeth y dylid cyflwyno Cwricliwm ffurfiol am y tro cyntaf, cynnigwyd model unffurf ar gyfer Cymru a Lloegr. Ond, cyflwynwyd elfennau Cymreig yn ychwanegol at y Cwricilwm hwnnw fel cyfaddawd i’r gwrthwynebiad gan rhai carfannau yng Nghymru i syniad o’r fath.

Er y bu sawl diwygiad ac adolygiad dros y blynyddoedd, a gwahnaol gyrff a chwangos yn adolygu gweithrediad y Cwriciliwm Cymreig, yr un ydyw yn ei hanfod. Fodd bynnag, rhan o’r rheswm dros sefydlu’r Tasglu a gadeiriodd y Dr Elin Jones oedd pryder am Seisnigrwydd y Cwriciliwm Cymreig a’r “ansicrwydd” a fodolai ynghylch yr hyn ydyw. Cyfeiriwyd at sawl camsyniad megis ‘dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg’ y mae’n ei olygu neu’r haeriad fod “ysgrifennu’r dyddiad yn Gymraeg ar y bwrdd gwyn yw’r Cwricilwm Cymreig” yn bodloni’i ofynion.

Yn syml, mae’r Cwriciliwm Cymreig yn ymestyn y tu hwnt i Hanes Cymru yn unig. Rhaid ei ddysgu fel elfen ganolog o bynciau megis Celf, Daearyddiaeth a Cherdd ac ati. Mae’n nodi cyfraniad Cymreictod at elfennau o’r pynciau hynny.

Pryderon

Yn ôl cyfraith gwlad, dylai fod yn “rhan o brofiad addysg pob disgybl rhwng 3 ac 18 yng Nghymru” ond fel y dywedodd Dr Jones, o brofiad, mae pob athro “gwerth eu halen” yn rheoli’r addysgu o fewn eu dosbarthiadau eu hunain nid cyfraith gwlad a all wneud hynny. Meddai Dr Elin Jones wrth Llais y Maes:

“Mae e’n gwbwl wahanol yn yr Alban. Mae e’n wahanol hefyd yng Ngogledd Iwerddon ac mae gyda nhw llawer mwy o autuonomy dros eu Cwriciliwm nhw erioed nag sydd wedi bod gyda ni yng Nghymru”

 

“Y gwendid rwy’n gweld trwy’r amser yw’r diffyg cydlyniant ‘na. Dy nhw ddim yn rhoi’r testun lleol, yn ei gyd-destun cenedlaethol Cymreig, yn ei gyd-destu Prydeing (a ddim Lloegr yn unig) ac yn sicr does dim digon o gyd-destun Ewropeaidd na byd eang i’r hyn ‘y’ ni’n dysgu yng Nghymru. Licen i feddwl ein bod ni’n siarad am Glyndwr- ni’n siarad am effaith Glyndwr yn lleol;ni’n siarad amdano yng Nghymru; ni’n siarad amdano yng nghyd-destun gwrthryfeloedd tebyg yn y bymthegfed ganrif yn Ewrop gyfan.”

 

Yn ogystal, dywedwyd am:

  • Athrawon yn cymysgu rhwng  gofynion meysydd llafur eu hysgolion unigol a’r Cwricilwm Cymreig
  • Farchnata trwm ar gyfieithiadau Cymraeg o gynlluniau gwaith o Loegr a all fod yn Seisnigaidd eu naws a grym cwmniau masnachol o’r fath ar yr hyn a addysgir yn ysgolion Cymru
  • Diffyg ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd eisoes ar gael ac yn “hel llwch mewn stordai” bellach
  • Dylanwad y drefn arholiadau yn golygu dechrau paratoi disgyblion yn rhy fuan
  • “carchar pynciol” yn yr Uwchradd o ran diffyg cyd-weithio pynciol

Y Dyfodol: “Dylanwad nid deddfu”

Mae’r Dr Jones yn gweld y profion PISA a’r pwyslais ers 2008 ar sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ffordd ymlaen i’r Cwriciliwm Cymreig, ac i’r modd y dysgir Hanes Cymru yn ein hysgolion yn benodol. Byddai canolwyntiau ar y pwyslais a rydd y profion hyn ar gymhwyso gwybodaeth hefyd yn ogsoi unrhyw gyhuddiadau bod dysgu ffeithiau ar eu pen eu hunain yn “bropaganda”. Roedd y Dr Jones o’r farn y dylid cytuno ar “fframwaith amser Gymreig” i allugoi datblygu sgiliau beirniadol a dadansoddol, fodd bynnag.

Ymateb

Ar ddiwedd y sesiwn, cafwyd ymateb angerddol gan Cynog Dafis, cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion a chyn-Gadeirydd Pwyllgor Addysg y Cynulliad  Cenedlaethol, a oedd yn bresennol yn y ddarlith. Roedd yn anghytuno â’r syniad o Gwriciliwm Cenedlaethol ar gyfer “dwy genedl wahanol” (Cymru a Lloegr). Roedd yn dymuno gweld Cwricilwm Cenedlaethol Cymreig.

Mae’r Gweinidog Addysg presennol, Huw Lewis wedi sôn am ‘Gwriciliwm ar gyfer Cymru’ ac roedd Dr Jones yn gobeithio y byddai’n gweld “Cwriciliwm i Gymru go iawn a hynny o fewn y flwyddyn nesaf ‘ma”.

Share this article

Comment on this article