Y Cymry yn gwrthryfela mewn symffoni yn y Pafiliwn

11 August 2017

Dim ond oriau a gymerodd hi yn dilyn Gig y Pafiliwn yn y Fenni y llynedd i Eisteddfodwyr ddechrau sibrwd ynglyn â dilyniant i ddigwyddiad a oedd yn tei mlo fel un unwaith mewn oes. Alcohol yn y Pafiliwn? Pobol o bob oed yn heidio i sefyll o flaen llwyfan lle mae clywed cerdd dant llawer mwy tebygol na sgrech gitar? Digon tebygol fod y traddodiadwyr yn ddig o weld ffasiwn antics mewn lle mor gysegredig ond does dim os nac oni bai eu bod yn y lleiafrif.

A fydd dilyniant yn taflu baw ar atgofion o gig a oedd yn teimlo mor arbennig? Daeth mewn cyfnod lle roedd Cymru Gymreictod yn danllyd yn dilyn camp anhygoel ein harwyr yn Ffrainc. Roedd y Pafiliwn yn llawn o alawon melys a bachog Sŵnami, clasuron gan Yr Ods fytholwyrdd a gitars adnabyddus Candelas. Gyda tri o fandiau mwyaf y Sîn Roc Gymraeg yn cyd-chwarae gyda cherddorfa’r Welsh Pops anhygoel, roedd gig y llynedd fel arddangosiad o bwer tebyg i un milwrol. Daeth y noson i ben gyda’r anthem genedlaethol yn cloi haf gwefreiddiol i’r Cymry.

Rebeliwn

Roedd neithiwr yn wahanol. Rebeliwn odd o. Gwrthryfel. Daeth Gig Y Pafiliwn 2017 i fod yn rebeliwn yn ymateb i’r rhai sydd wedi sathru arnom. Y tristwch ydy mai nid ymosodiadau hanesyddol oedd angen ymladd yn eu herbyn; mae’r brwydrau yna bellach yn rhan o hanes nis anghofir. Yn dilyn dau digwyddiad proffil uchel yn ystod wythnos yr Eisteddfod, y cyntaf yn ymwneud â Sports Direct ac yna BBC Newsnight yn dangos amharch tuag at yr iaith, roedd rhaid i’r Cymry ymladd yn ôl. Ac ymladd yn ôl y gwnaethant.

Agorwyd y gig gyda Mr. Phormula yn bîtbocsio. Gellid teimlo syfrdanwch y gynulleidfa o glywed dyn yn creu cerddoriaeth gyda’i geg, heb eiriau, i gyfeiliant cerddorfa fyw. Yn dilyn cameo byr Mr. Phormula, daeth Yr Eira ymlaen. Yn rhy aml mae’r Eira yn cael eu labelu (yn anheg) fel brawd bach Sŵnami oherwydd cyfraniad Ifan Davies i’r ddau fand. Gwelsom fand neithiwr oedd yn aeddfed, ac sydd yn sicr wedi ysgwyd y cymhariaethau Sŵnami i’r pwynt lle ma gwneud y gymharieth yn chwerthinllyd ac yn debyg i gymharu ‘croissant’ â ‘pain aux raisin’, mae’r ddau yn grêt ond yn cynnig rhywbeth gwahanol. Clywsom rhai hen ffefrynnau indie roc megis ‘Elin’ a ‘Trysor’ yn ogystal â chaneuon o’u halbwm newydd trawiadol. Yn sicr dwi ddim yn arbenigydd lleisiol ond roedd llais y prif leisydd Lewys Wyn yn cyd-fynd gydag aeddfedrwydd cerddoriaeth y gerddorfa. Doedd y straenau lleisiol achysurol gynt ddim yn bodoli ac mae Lewys yn haeddu cydnabyddiaeth am hynny.

Chwalu amheuon

Yn dilyn Yr Eira daeth Alys Williams ac yn ystod y seibiant rhyngddynt dechreuodd amheuon chwyrlio ymysg rhai fel fi nad oedd yn adnabyddus o’i cherddoriaeth ar wahan i’w chydweithrediadau gyda Candelas a Band Pres Llareggub. Cafodd yr amheuon yna eu chwalu’n syth yr eiliad agorodd y gantores o Gaernarfon ei cheg. Clywsom gasgliad o’i gwaith unigol a ‘Blodau Papur’ oedd yr un sydd yn aros yn y cof. Hyfryd oedd cael gweld merched yn eu hoed gerllaw yn mwynhau llais swynol Alys Williams ochr yn ochr ag oedolion ifanc a oedd yn gafael  potel o alcohol ym mhob llaw. Roedd y cyfuniad o roc indie, cerddorfa, cantores a rapiwr yn gweithio mor dda a does gen i ddim syniad pam! Daeth Mr. Phormula nôl i’r llwyfan i ymuno â hi a chlywsom berfformiad gwych o’u cân ‘Gweld y Byd Mewn Lliw’. Allan o bawb a oedd yn perfformio, Mr. Phormula a Alys Williams oedd yn cael e

u craffu arnynt fwyaf. Cefais fy narbwyllo gan berfformiadau y ddau eu bod yn llawn haeddu bod yno, er bod eu proffil yn llai amlwg nag eraill, gyda Mr. Phormula â’r dasg fwyaf o ennill calonnau’r gynulleidfa gan ei fod mewn genre mor niche (rap Cymraeg). Roedd ei fynegiant yn dda a’i eiriau’n ddwfn.

Y dyn a’r cyrls

Clowyd y noson gan y dyn â’r cyrls o Wynedd. Rydym wedi trafod apêl y perfformwyr eraill i gynulleidfa o bob oed yn barod, ond roedd Yws Gwynedd yn feistr ar hynny. Amhosib oedd peidio cael dy gipio gan ei egni ac mae ei apêl yn ddi-dor. Cawsom rhai caneuon o’i albwm newydd Anrheoli‘ megis ‘Disgyn yn ôl’, ‘Anrheoli’ a ‘Drwy dy lygid di’. A beth yw gig Yws Gwynedd heb y gan sydd wedi cael ei gwrando arni dros 132,000 gwaith ar Spotify a 175,000 gwaith ar YouTube? Aeth y dorf yn wyllt yr eiliad strymiodd Yws gord cyntaf ‘Sebona fi’ ac roedd miri yn y Pafiliwn. Unwaith i Yws orffen ei set, doedd dim amheuaeth beth oedd am ddilyn. I mi, mae unrhyw gyfle i ganu yr anthem genedlaethol yn un da. Doedd y gig ddim o reidrwydd yn well na gwaeth na’r flwyddyn diwethaf, ond roedd hi’n wahanol mewn ffordd da. Yr un newid sylweddol yn ogystal â bandiau gwahanol oedd zeitgeist y dorf. Roedd yr ymdeimlad flwyddyn diwethaf yn un o ddathliad, tra bod gig eleni’n noson o wrthryfela egnïol balch. Roedd hyn yn holl amlwg pan ganwyd yr anthem. Yng ngeiriau Ywain Gwynedd; ‘Does neb yn rheoli ni’…

 

Share this article

Comment on this article