Ydy bywyd yn boen?

5 August 2014

‘Ydy bywyd yn boen?’

Dyna’r enw a roddwyd ar sesiwn ym mhabell ‘Trafod’ Prifysgol Caerdydd brynhawn Llun. Yn ystod y digwyddiad, bu’r Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn holi pump o ddisgyblion blwyddyn 9 Ysgol y Strade, Llanelli am lenyddiaeth Gymraeg sydd wedi ei hanelu tuag atynt.

Cyn yr Eisteddfod bu’r Dr Rosser yn dewis a dethol llyfrau sydd wedi eu hanelu at oedran yr arddegau i’w cyflwyno i ddisgyblion ynYsgol Gyfun y Strade yma yn Llanelli. Darllennodd Gareth, Isabelle, Angharad, Rhys a Siôn un o’r llyfrau dethol hyn yr un -amrywiaeth eang o lyfrau i gyd- a gofynnwyd iddynt gadw dyddiadur i’w cynorthwyo gyda’r trafod y prynhawn ‘ma.

Problemau prifio? 

Dechreuwyd drwy holi a oedd y bobl ifanc yn dymuno darllen stori dda ynta’ darllen am helyntion yr arddegau. Soniodd Rhys am yr holl ddewis sydd ar gael yn Saesneg wrth edrych mewn siopau llyfrau masnachol ar y stryd fawr, petai’n dymuno darllen llyfr ‘antur’ er enghraifft, ond bod prinder o ddewis cyffelyb yn y Gymraeg. Mae’n debyg bod ‘bywyd yn boen’ i ryw raddau ond bod diffyg ymwybyddiaeth o’r deunydd sydd eisoes yn bodoli hefyd yn rhwystr i’r to ifanc.

Tafodiaith

Arweinodd y drafodaeth at y defnydd o wahanol dafodieithoedd a wneir gan awduron a sut yr oedd hynny’n rhwystr i’r adolygwyr ambell waith. Roedd Isabelle ac Angharad yn gytun bod “tafodiaith y gogledd” , yn yr achos hwn, yn rhwystr ar adegau wrth fwynhau nofelau Cymraeg. Ond, dywedodd un aelod o’r gynulleidfa bod penderfynnu ar dafodiaith cymeriadau yn dasg anodd gyda ffactorau megis dyfodiad ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain i’w hystyried mewn plotiau straeon cyfoes. Fodd bynnag, mae cyflwyno tafodiaith i gynulleidfaeodd ifanc – a all fod yn ddiethr- yn rhywbeth i’w groesawu yn ei hanfod gan ei fod yn fodd o gyfoethogi ac amrywio eu gwaith creadigol, meddai’r cyfrannwr.

Sensoriaeth?

A oes angen nofelau wedi’u hanelu at rheiny yn eu harddegau o gwbl tybed? Dywedwyd bod y bobl ifanc yn profi ffilmiau ac ati nad ydynt o reidrwydd wedi eu hanelu atynt ond yn hytrach ar gyfer cynulleidfaoedd llawer hyn o ran cynnwys, iaith a themâu. Gan fod y gyfrifoldeb o farchnata llyfrau Cymraeg ar gyfer y to hwn yn aml yn syrthio ar ysgwyddau rheiny mewn awdurdod- megis athrawon gan amlaf – teimlir efallai bod arferion darllen pobl ifanc yn y Gymraeg yn dioddef. Cyfeiriwyd at lyfrau Dewi Prysor a Llwyd Owen fel enghraifftiau a allai fod o ddiddordeb i rheiny yn eu harddegau ond nad ydynt yn gwybod amdanynt.

Hwb fach

Cytunodd y criw o’r Strade bod y disgwyliad arnynt i ddarllen ymlaen oherwydd y sesiwn wedi bod yn hwb. Pe na baent yn adolygu’r llyfrau cyfaddefodd un neu ddau y byddai temptasiwn i roi’r llyfrau i lawr.

“Y lle gorau”

Os oes yna rwystrau yn y ‘byd y tu allan’  -boed hynny’n ddifyg dewis neu’n ddiffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael- ni all hynny fod ymhellach ohoni fan hyn yn yr Eisteddfod, yn ôl y Dr Siwan Rosser. “Mae’n debyg ein bod yn y lle gorau” i brofi’r ystod o lyfrau Cymraeg yma ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol,meddai. Galwodd ar y disgyblion ysgol i grwydro’r amrywiol stondinau ar y maes i gael gafael ar nid yn unig y llyfrau Cymraeg hynny sydd wedi eu hanelu atynt ond y rheiny tu hwnt hefyd.

Share this article

Comment on this article