Ymgyrch Dŵr Cymru: #CaruDŵr

6 August 2014

Rwy’n siŵr fe fydd Eisteddfodwyr eleni wedi sylwi ar stondin Dŵr Cymru wrth gerdded trwy’r maes Sir Gar’ gyda’r torfau’n arllwys allan i’r llwybrau. Mae’r stondin yn boblogaidd iawn gyda phawb flwyddyn yma oherwydd bod ansawdd y ‘ffreebie’ yn ei wneud yn un o’r rhai gorau sydd i gael ar y maes. Es i ymweld â phennaeth cysylltiadau allanol y cwmni, Heulyn Gwyn Davies er mwyn trafod am eu hymgyrch newydd sydd yn hybu pobl i werthfawrogi dŵr ac i ddefnyddio hwy mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Eleni ar y maes, mae Dŵr Cymru yn ofyn i bobl dweud wrthynt pam maent yn #CaruDŵr ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel trydar a facebook. Os dyw’r person hynny ddim yn defnyddio’r gwefannau, maent yn arwyddo addewid ar bapur. Yn gyfnewid am hyn, bydd y stondin yn llenwi canister dŵr gyda dŵr ffres i’r bobl hynny. Hyd yn hyn, mae’r cyfaint o bobl sydd wedi cymryd rhan wedi cyrraedd 300,000 – swm anferthol o lwyddiannus!

Nod y prosiect yw cael pobl i werthfawrogi dŵr yng Nghymru. Mae Heulyn yn esbonio i mi, “y lleiaf o ddŵr sydd rhaid i ni ei drin, y lleiaf yw’r costau. Mae hyn felly’n trosglwyddo i’n gwsmeriaid – y llai sydd rhaid iddynt dalu.” Dechreuodd yr ymgyrch #CaruDŵr tua mîs nôl yn ystod y sioe Cymraeg Amaethyddol Frenhinol yn Llanfair ym Muallt.

“Rydym yn awyddus i’r prosiect parhau am y pedwar mis nesa, ac yna wrth glosau i’r gaeaf fyddem yn cynghori pobl i baratoi eu pibellau. Bydd yr ymgyrch yna’n ail-ddechrau eto yn y flwyddyn newydd.”

Mae’r cwmni yn awyddus i annog mwy o bobl i ymuno â’r ymgyrch ac i ledaenu’r gair. Yn y pen draw, y nod yw cael system dŵr Cymreig mwy cynaliadwy.

Heulyn Gwyn Davies – “Dwi’n joio mas draw eleni ar y maes, mae’r stondin Dwr Cymru’n edrych yn ardderchog. Dwi’n wreiddiol o Lanelli, ac mae’r tywydd yn wych a phopeth yn grêt!”

Isod, fe welir Heulyn wrth y stondin a Kelly Davies a’i ffrind, dwy ymwelwyr i’r maes y ddoe yn adlewyrchu pam eu fod nhw’n #CaruDŵr hefo llun gyda potel dwr.

IMG_0077IMG_0075Screen Shot 2014-08-06 at 13.04.16

Share this article

Comment on this article